Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Llys Archwilwyr Ewrop

Oddi ar Wicipedia
Arwyddlun swyddogol Llys Archwilwyr Ewrop

Pumed sefydliad yrUndeb Ewropeaidd ywLlys Archwilwyr Ewrop. Er gwaethaf ei enw, nid oes ganddo rym barnwrol fel yLlys Cyfiawnder. Yn lle hynny, mae'n sicrhau bodarian cyhoeddus o gyllideb yr Undeb Ewropeaidd wedi cael ei wario yn gywir. Yn enwedig, mae'r llys yn darparu adroddiad archwilio ar gyfer pob blwyddyn ariannol i'rCyngor aSenedd Ewrop. Mae'r Senedd yn defnyddio'r adroddiad hwn i benderfynu a ddylai gymeradwyo trin y gyllideb gan yComisiwn. Mae'r llys hefyd yn rhoi barnau a chynigion ynghylch deddfwriaeth ariannol a gweithredoedd gwrth-dwyll.

Llys Archwilwyr Ewrop yw'r unig sefydliad na soniwyd amdano yn y cytundebau gwreiddiol, gan ei fod yn cael ei sefydlu ym1975. Fe'i crëwyd fel sefydliad annibynnol oherwydd sensitifrwydd y mater odwyll o fewn yr Undeb. Mae'n cynnwys un aelod o bob Gwladwriaeth, wedi'i benodi gan y Cyngor bob chwe blynedd. Bob tair blynedd, etholir un ohonynt yn llywydd y llys; Hubert Weber sy'n dal y swydd hon ar hyn o bryd.

Cyswllt allanol

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Llys_Archwilwyr_Ewrop&oldid=10980603"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp