![]() Arfau llinach Aberffraw | |
Enghraifft o: | teulu o uchelwyr ![]() |
---|---|
Gwlad | ![]() |
Rhan o | teulu brenhinol Gwynedd ![]() |
Yn cynnwys | Syr John Wynn ![]() |
Sylfaenydd | Anarawd ap Rhodri ![]() |
Enw brodorol | Llinach Aberffraw ![]() |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
![]() |
Llys brenhinol a llinach frenhinol,ganoloesol oeddLlys Aberffraw gyda'u pencadlys ym mhentrefAberffraw,Ynys Môn, o fewn ffiniauTeyrnas Gwynedd ar y pryd. Sefydlwyd y llinach yn y9g gan Rhodri Mawr, Brenin Cymru gyfan, a sefydlodd gyda'i ddisgynyddion 'Lysoedd Brenhinol Cymru'. Ceir dwy linachGymreig ganoloesol arall: Llys Brenhinol Dinefwr, a Llys Brenhinol Mathrafal. Yn nhestunaucyfreithiol yr oes, fe'i disgrifir fel 'eisteddle arbennig'llinach Gwynedd. MabwysiadoddLlywelyn ap Iorwerth y teitl 'Tywysog Aberffraw' er mwyn pwysleisio ei statws unigryw.[1] Hyd yn oed erbyn 1377 roedd cefnogwyrOwain Lawgoch yn pwysleisio 'ei fonedd o Aberffraw'.
Ystyrir bod y Llys Brenhinol yn dermhanesyddol acachyddol y mae haneswyr yn ei ddefnyddio iddarlunio llinell yr olyniaeth oddi wrthRhodri MawrCymru trwy ei fab hynafAnarawd o'r870au OC.[2][3] Ffynnodd y llinach am ganrifoedd nes tranc y teulu brenhinol yn ystod y13g oherwydd ymosodiadau parhaus byddin Lloegr yn enwedig ymosodiadEdward I ar Gymru, marw'r Tywysog Llywelyn II ar 11 Rhagfyr 1282, aDafydd III ei frawd yn 1283. Disgynnydd uniongyrchol llinellol olaf Llys Aberffraw oeddOwain Lawgoch, a fu farw yn y14g. Ers hynny mae sawl teulu bonheddig Cymreig wedi honni eu bod yn ddisgynyddion gwrywaidd i'r teulu.[4]
Yn draddodiadol rhanwyd Gwynedd yn ddwy ardal: "Gwynedd Uwch Conwy a "Gwynedd Is Conwy, gydagAfon Conwy yn ffin rhwng y ddwy ran.
Yn ôlHistoria Brittonium (‘Hanes y Brythoniaid’, 9g) roeddCunedda Wledig[5] a'i feibion wedi dod i lawr i ogledd-orllewin Cymru o'rHen Ogledd, sef rhan ddeheuolyr Alban yn awr, er mwyn erlid y Gwyddelod o Wynedd, gan sefydlu teyrnas Gwynedd yn sgil hynny.[6] Yr hen enw mewnLladin oedd Venedotia.[7] Mae dadlau ynghylch pryd digwyddodd hyn, gyda’r dyddiadau'n amrywio o ddiwedd y 4g i ddechrau’r 5g OC.
Mae enw'r Llys Brenhinol yn tarddu oAberffraw,Ynys Môn, ac oAfon Ffraw. Yn y llys brenhinol y sefydlodd brenhinoedd cynnar Gwynedd eu prif sedd deuluol: roedd Gwynedd yr adeg honno hefyd yn cynnwys Ynys Môn. Roedd yma anheddiadcynhanesyddol ar y safle, a feddiannwyd yn ddiweddarach yn ystod y cyfnodRhufeinig (tua 0-400ÔC). Daeth y dref yn llys tywysog Cymreig a lleoliad ypalas brenhinol fel rhan o'r ganolfan weinyddol Môn.[8] CladdwydCadfan ap Iago, brenin cynnar o Wynedd, yn Eglwys Sant Cadwaladr yngnghantref Aberffraw. Mae carreg fedd Cadfan (634 OC) yn cael ei harddangos yn yr eglwys heddiw ac mae'n nodi:[9]}}[10][11][12]
“ | CATAMANUS REX SAPIENTIS MUS OPINATISM US OMNIUM REG UM (Y Brenin Cadfan, y Galluocaf a'r Enwocaf o'r Holl Frenhinoedd)[13] | ” |
Yr oedd yr olyniaeth frenhinol yn Nhŷ Aberffraw yn fater cymhleth oherwydd natur unigrywCyfraith Cymru.[14] Yn ôl Hubert Lewis, yr edling (neu'r etifedd amlwg), trwy gonfensiwn, defod, ac arfer, oedd mab hynaf yr arglwydd neu'r tywysog ac roedd ganddo hawl i etifeddu'r safle a'r teitl fel "pennaeth y teulu". Darparwyd hefyd ar gyfer yr holl feibion eraill gyda thiroedd y tad, ac mewn rhai amgylchiadau darparwyd ar gyfer y merched hefyd a hynny gyda phlant a anwyd o fewn ac allan o briodas yn cael eu hystyried yn gyfreithlon.[14] Roedd y parch yma at y ferch yn gwbwl wahanol i weddill gwledydd Ewrop.
Gallai dynion hefyd hawlio teitl brenhinol trwy linach tadol eu mam o dan rai amgylchiadau. Digwyddodd hyn sawl tro pan oedd Cymru'n wlad annibynnol.[15] Ystyriwyd hefyd fod y llinach fenywaidd yn aros yn frenhinol, gan fod priodas yn fodd pwysig o gryfhau hawliadau unigol i wahanol deyrnasoedd Cymru. Unwyd sawl teulu brenhinol gyda Llys Aberffraw, neu aduno carfannau yn dilyn rhyfeloedd cartref (er enghraifft gyda phriodasHywel Dda, aelod o gangenDinefwr o linach Aberffraw, ac Elen o Ddyfed, merchLlywarch ap Hyfaidd, brenin Dyfed)[16]. Roedd hyn yn golygu bod y llinach fenywaidd yn cael ei hystyried yn llwybr cyfreithlon o dras frenhinol yn Llys Aberffraw, gyda hawl merched brenhinol i deitlau fel arfer yn trosglwyddo i'w meibion.[17]
Isod ceir coeden deulu rhannol llinach Gwynedd.[18]
Roedd 22 o ganolfannau gweinyddol (llysoedd) yn Nheyrnas Gwynedd i weithredu fel llysoedd brenhinol i Dywysogion prif Lys Aberffraw.[19] Isod mae enghraifft o un neu ddau o'r 'Llysoedd' hyn:
Saif Llys Rhosyr gerllaw Aberffraw ynNiwbwrch, Ynys Môn. Datgelodd gwaith cloddio yma yn 1992 wal amddiffynol ac adeiladau mewnol, gan gynnwys neuadd a'r hyn y credir ei fod yn siambr frenhinol y Tywysog Llywelyn. Cloddiwyd hefydcrochenwaith a darnau arian a ddyddiwyd i tua 1247 – 1314. Adeiladwyd y llys brenhinol yn ystod teyrnasiad y Tywysog Llywelyn Fawr ac fe'i cofnodwyd gyntaf ar 10 Ebrill 1237. Heddiw mae adluniad, neu gopi, i'w weld ynAmgueddfa Sain Ffagan yngNghaerdydd, DU.[20]
Yn ystodt. 1200, parhaodd y TywysogLlywelyn Fawr i gynnull y llys brenhinol yn Aberffraw i safon cystal a'r Deyrnas Seisnig gyfagos, neu Ffrainc yn yr un cyfnod. Cymar Llywelyn oeddSiwan, merch BreninJohn o Loegr, ei hun yn Dywysoges. Ail-olygodd Llywelyn, fel Tywysog, reolau'r 'stafell frenhinol', a ailddeddfwyd o'r deddfau a'r arferion gwreiddiol o'r flwyddyn 914 ar gyfer Palas Brenhinol Aberffraw. Gelwid y palas yn "brif dŷ (neu lys) Tywysog Gwynedd" o'i seiliau yn ystod teyrnasiadRhodri Mawr."Yr oedd swyddogion y llys a deuddeg o foneddwr, sef y gwarchodlu brenhinol, wedi eu gosod ar feirch, gydag ystafelloedd y llys wedi eu dodrefnu gan y brenin."
Mae cloddiadau yn yr ardal wedi dangos olion caer ganoloesol sy’n dangos nodweddion Rhufeinig neu ôl-Rufeinig, a allai fod yn safle posibl i’r llys.[21] Tybir mai lleoliad Eglwys Sant Beuno heddiw oedd safle’r llys brenhinol.[22] Defnyddiwyd rhannau o'r hen waith carreg yn yr eglwys wreiddiol yn iard eiddo'r 'Eryrod' ger sgwâr Aberffraw, lle defnyddiwyd rhai o'r cerrig hyn i adeiladu ysgol Soar.
Roedd 35 o swyddi yn y llys gan gynnwys Meistr y Palas, Y Caplan Domestig, Caplan y Frenhines, Stiward yr Aelwyd, Stiward y Frenhines, Meistr yr Hebogiaid, Barnwr y Palas, Meistr y Ceffylau, Meistr Ceffyl y Frenhines, Y Siambrlen, Siambrlen y Frenhines, Prifardd, Meistr y Cŵn, Ceidwad y Medd, Meddyg y Palas, Cludwr y Cwpan, Ceidwad y Drws, yCogydd, Cogydd y Frenhines, Arglwyddes Siambr y Frenhines, Ceidwad Drws y Frenhines, Gwylwyr y Palas, y Pobydd, Y gof, Ceidwad y dillad, Ceidwad y Gân ayb.
Roedd trefniadaeth y llys brenhinol yn enfawr gydag o leiaf 47 o swyddi'n angenrheidiol bob dydd, ac mewn rhai swyddi, byddai angen mwy nag un person. Roedd ystafellLlywelyn ap Gruffudd yngNghastell Harlech tua'r un maint a Llys Aberffraw, 15 troedfedd o led a 40 troedfedd o hyd. Yn ystod 1317, datgymalwyd y neuadd, a defnyddiwyd y pren i adeiladuCastell Caernarfon. Roedd hyn yn symbolaidd: ymgorffori'r llys Cymreig o fewn castell Seisnig: ymgorffori Cymru o fewn Lloegr. Methiant fu hyn, fodd bynnag a chadwodd y Cymry eu hunaniaeth; yng ngeiriauDafydd Iwan:'Dan ni yma o hyd'.
Maerdref Talybolion: o bosib wedi'i leoli ger eglwys Llanbadrig, Cemaes; SH375946.
Llys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd a leolir ynLlanfaethlu; SH313869.
Llys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd, a leolwyd ar safle Rhufeinig yng Nghaergybi; SH247827.
Llys Brenhinol Teyrnas Gwynedd a leolwyd ym Maerdref Dindaethwy,Biwmares; SH607775.
Llys a leolwyd ym Maerdref Twrcelyn (safle anhysbys, a leolwyd o bosib ym Mhlas Lligwy,Moelfre; SH497859.
Prif Lys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd – Maerdref Cantref Arfon. Yn ddiweddarach symudwyd y llys i'r fan lle codwyd Castell Caernarfon yn ddiweddarach; SH485623.
Llys Brenhinol arall yn Nheyrnas Gwynedd a hynny ym Maerdref Cantref Arfon. Mae'n bosib fod yna Lys wedi ei sefydlu ar safle Castell Caernarfon; gw. uchod hefyd. Ad-enillodd y Cymry y castell mwnt a beili oedd yma cyn y castell yn 1115; SH476626.
Mwnt Canoloesol a llys tywysogion (o bosib) oeddCastell Dolbenmaen, ym Maerdref Cantref Eifionydd,Dolbenmaen; SH506430.
Llys Brenhinol cynharaf Teyrnas Gwynedd oeddCastell Dolbadarn, a godwyd ganMerfyn Frych ynLlanberis SH586598
Mwnt a Beili Normaniaid ar safle hen Lys canoloesol ynRhiwlas; SH569655.
Llys Brenhinol diweddarach Teyrnas Gwynedd a leolwyd fwy na thebyg ar dwmpathPen y Mwd ynAbergwyngregyn; neu efallai yngNgarth Celyn (Pen y Bryn); SH658732.
Prif Lys Brenhinol cynnar ym Maerdref Conwy,Deganwy; SH782794.
Plas Brenhinol y Brenin Rhun a leolwyd yng Nghaer Rhufeinig Kanovium,Caerhun; SH776703.
Llys Brenhinol cylchdaithLlywelyn ap Gruffydd,Brynrefail; SH632562. Rhagor:yma.
Cysylltir y llys hwn gyda'r BreninCadwallon, gerLlandudno
Lleoliad: ar safleBryn Euryn,Llandrillo yn Rhos; SH832798.
Y man tebygol yw lleoliad presennol Eglwys Ebeneser,Trefriw; SH780631
Cantref Gruffydd ap Llywelyn. Lleolwyd ar fryncyn Castell Twthill gerCastell Rhuddlan heddiw; mwnt a beili,Rhuddlan; SJ026776
Amddiffynnodd Teyrnasoedd Cymru eu tiriogaeth rhag Eingl-Normaniaid a theithiau milwrol dilynol Brenhinoedd Lloegr 21 o weithiau rhwng 1081 – 1267. Roedd Tywysogion y13g, llywodraethwyr Cymru, yn rheoli eu Teyrnasoedd cyfagos trwy fframwaith gwleidyddol tra'n eithrio a darostwng disgynyddionarglwyddi'r gororau Normanaidd trwy ryfel.[23][14]
Yn ystod y 13g, roedd Cymru'n cael ei rheoli ganDafydd ap Llywelyn (Dafydd II), mab Llywelyn Fawr. Wedi marwolaeth Dafydd II, rhoddwyd y grym i'w nai,Llywelyn ap Gruffudd (y Tywysog Llywelyn II) a chadarnhawyd y teitl Tywysog Cymru gan Harri III o Loegr yngNghytundeb Trefaldwyn yn 1267. Lladdwyd y Tywysog Llywelyn II mewn brwydr tra'n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru yngNghilmeri ar 11 Rhagfyr 1282. O linachAberffraw Tywysog olaf Cymru oeddDafydd ap Gruffydd (y Tywysog Dafydd III). Wedi marwolaeth Llywelyn, aeth Dafydd III ati i frwydro'n erbyn yr ymosodwyr Seisnig am rhyw 6 mis ond fe'i daliwyd a chafodd ei ddienyddio amdeyrnfradwriaeth ynAmwythig,Lloegr mewn modd creulon iawn, gan Edward I o Loegr ar 3 Hydref 1283.
Yn sgil yr hyn a elwir yn Goncwest Cymru 1282-83 gan y Saeson, lleihawyd dylanwad a grym llinach Aberffraw. Gorfododd y Brenin Edward I weddill aelodau'r teulu i ildio eu hawliad i'r teitl 'Tywysog Cymru' o danStatud Rhuddlan yn 1284, a diddymodd yr arglwyddiaeth Gymreig annibynnol.[24][25] Carcharwyd aelodau agosaf teulu Llywelyn II am oes gan Edward, tra ffodd aelodau eraill o deulu Aberffraw am eu bywydau. Ond roedd rhai'n mynnu hawlio eu hetifeddiaeth ac yn eu plith yr oeddMadog ap Llywelyn (1294-95) acOwain Lawgoch (1330 – 22 Gorffennaf 1378) fel olynwyrllinell Llywelyn II. Ychydig iawn o arglwyddi Cymreig a oroesodd ymdrech Lloegr ioresgyn Cymru ym 1282/3.
Disgynnydd arall oeddOwain Glyn Dŵr, cyhoeddwyd ef yn Dywysog Cymru ym Medi 1400 a gwrthryfelodd yn llwyddiannus yn erbyn Coron Lloegr am fwy na degawd.[23]
Canrif ar ôl diwedd y llinach, y teulu Meurig, teulu oFodorgan ger Aberffraw a gafodd brydles Goron Lloegr am diroedd maenorcantref Aberffraw. YmladdoddLlywelyn ap Heilyn ymMrwydr Bosworth ochr yn ochr âHarri Tudur a oedd ei hun yn ddisgynnydd o linach Aberffraw trwyDuduriaid Penmynydd ac yn ddisgynyddion iEdnyfed Fychan,Distainl (Prif Weinidog mewn llywodraeth[26]) i Lywelyn Fawr a'i fabDafydd II. Daeth mab Llewelyn ap Heilyn, sef Meurig ap Llewelyn yn gapten gwarchodluHarri VIII o Loegr, a gwobrwywyd yr un teulu unwaith eto ag estyniad o brydles eu tiroedd. Heddiw, mae'r teulu Meurig o gantref Aberffraw yn parhau fel barwniaid Seisnig Tapps-Gervis-Meyrick.[27] Y tu hwnt i Fôn, roedd nifer o deuluoedd Cymraeg ôl-ganoloesol gan gynnwys y teulu Wynn o Wydir (hyd y17g ) a daethteulu Anwyl Tywyn yn etifeddion y llinach fel disgynyddion gwrywaiddetifeddol Owain Gwynedd.[28]
Gwall cyfeirio: Mae tagiau<ref>
yn bodoli am grŵp o'r enw "lower-alpha", ond ni ellir canfod y tag<references group="lower-alpha"/>