Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Llyn Idwal

Oddi ar Wicipedia
Llyn Idwal
Llyn Idwal o'r Garn
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.1158°N 4.0256°W Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddEryri Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethsafle Ramsar Edit this on Wikidata
Manylion

MaeLlyn Idwal yn llyn bychan gydag arwynebedd o 28 erw (tua 800medr wrth 300 m) ynghanolCwm Idwal yn yGlyderau yng ngogleddCymru. Mae'r dŵr y llyn yn llifo i lawrAfon Idwal ac yn ymuno âNant y Benglog ychydig islawLlyn Ogwen, sydd yna'n ffurfioNant Ffrancon ac ynaAfon Ogwen.

Mae Llyn Idwal yngNgwynedd, ond mae'r ffin âsir Conwy yn dilyn glan ddwyreiniol y llyn. O gwmpas y llyn mae nifer o fynyddoedd, yn cynnwysGlyder Fawr a'rGarn. Ym mhen gogleddol y llyn mae creigiau Trigyfylchau, sy'n cynnwys y Twll Du neu Gegin y Diafol - hollt twfn yn y clogwyn rhwng Glyder Fawr a'r Garn. Mae'r afon fechan sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn iAfon Ogwen.

Tarddiad yr enw

[golygu |golygu cod]

Yn ôl traddodiad, rhoddodd Tywysog Gwynedd,Owain Gwynedd un o'i feibion, o'r enw Idwal, yng ngofal gŵr o'r enw Nefydd Hardd. Roedd mab Nefydd ei hun, Dunawd, yn genfigennus o Idwal, ac un diwrnod gwthiodd ef i'r llyn a'i foddi.

Cafodd hostel ieuenctid yn yr ardal ei henwi'nIdwal Cottage.

  • Ochr bella'r llyn, wrth ddod i fyny'r llwybr o'r briffordd
    Ochr bella'r llyn, wrth ddod i fyny'r llwybr o'r briffordd
  • Fideo o rai o'rllynnoedd acafonydd Cymru, fel Llyn Idwal, sy'n cael eu gwarchod a'u rheoli er mwyn diogelu'r bywyd gwyllt sy'n byw yn eu cynefin.
  • Llyn Idwal, a Llyn Ogwen yn y cefndir
    Llyn Idwal, a Llyn Ogwen yn y cefndir

Dolen allanol

[golygu |golygu cod]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Llyn_Idwal&oldid=13337063"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp