Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Llyn Ffynnon y Gwas

Oddi ar Wicipedia
Llyn Ffynnon y Gwas
Mathllyn,cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr1,381 troedfedd Edit this on Wikidata
GerllawLlyn Cwellyn Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.076927°N 4.104697°W Edit this on Wikidata
Map

Llyn ar lethrau'rWyddfa ynEryri ywLlyn Ffynnon y Gwas. Mae'r llyn, sydd ag arwynebedd o 10 acer, yng Nghwm Clogwyn, 1,381 troedfedd uwch lefel y môr.

Un eglurhad o'r enw yw'r traddodiad lleol fodbugail wedi boddi yma wrth olchidefaid ei feistr lawer blwyddyn yn ôl.[1]

Ar un adeg roedd y llyn yn gronfa yn cyflenwi dŵr ichwareli llechi ardalRhyd Ddu, ac mae'r argae yn dal i'w weld. Ceirbrithyll yn y llyn, ond nid ydynt yn tyfu'n fawr. Mae'r afon sy'n llifo o'r llyn yn llifo i mewn i lyn llai islaw iddo, oedd hefyd yn gronfa ddŵr, yna felAfon Treweunydd yn ymuno agAfon Gwyrfai ychydig cyn iddi lifo i mewn iLyn Cwellyn.

Gellir cyrraedd y llyn trwy ddilyn llwybr ySnowdon Ranger o Ryd-Ddu.

Llyn Ffynnon y Gwas

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • Geraint Roberts,The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. Frank Ward,The Lakes of Wales (Llundain, 1931), tud. 124.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Llyn_Ffynnon_y_Gwas&oldid=9050578"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp