Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Llyn Brân

Oddi ar Wicipedia
Llyn Brân
Mathllyn,cronfa ddŵr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.120148°N 3.552567°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganDŵr Cymru Edit this on Wikidata
Map

Llyn arFynydd Hiraethog ynSir Ddinbych ywLlyn Brân. Saif gerllaw y brifforddA543 rhwngBylchau aPentrefoelas.

Llyn naturiol oedd Llyn Brân yn wreiddiol, ond tua dechrau'r20g adeiladwyd argau i ehangu'r llyn er mwyn cyflenwi dŵr i Ysbyty'r Meddwl ynNinbych. Ceir pysgota am nifer o rywogaethau o bysgod, yn cynnwysPenhwyad, yma. Mae'r nant sy'n llifo o'r llyn yn ymuno ag Afon Brenig ac yn llifo i mewn iLyn Brenig.

I'r dwyrain o'r llyn ceirGorsedd Brân, bryn 518 metr lle ceir taircarnedd gynhanesyddol. Ni wyddys a ydy'r enwau hyn yn cyfeirio at y cymeriad mytholegolBrân neu beidio. Ceir sawl gŵr o'r enw Brân yn hanes cynnar Cymru hefyd.

Eginyn erthygl sydd uchod amSir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Llyn_Brân&oldid=10773584"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp