Llygredd a achosir drwy ryddhaunwyon,solidau mân, neuerosolauhylifol gwasgarog i'ratmosffer ar gyfradd sy'n mynd yn fwy na'r gallu naturiol i wasgaru, gwanhau neu amsugno'r sylweddau hynny ywllygredd aer.[1] Fel arfer cyfeiria "llygredd" at allyriannau gan ddyn (anthropogenig). O bryd i'w gilydd mae hefyd ffynonellau eraill o'r un sylweddau. Gall hyn creu dryswch wrth drafod cyfrifoldebau. Yn 2014 adroddoddSefydliad Iechyd y Byd (WHO) y bu llygredd awyr yn gyfrifol am tua 7 miliwn marwolaeth cyn ei amser yn 2012[2]. Yn ôl data Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd gan y BBC yn 2017[3] mae tua 2,000 yn marw (ryw 6% o'r cyfanswm) cyn ei hamser yng Nghymru pob blwyddyn o'i effaith; yn ail dim ond i ysmygu ac yn fwy o gonsýrn na gordewdra ac alcohol[3].
Cyhoeddir ar-lein adroddiadau cyson (beunyddiol ?) a manwl o ryw 40 safle monitro[4] gan Ansawdd Aer (Awyr) Cymru. Ceir hefyd ar ei wefan adroddiadau seminarau a ffeithiau ar y pwnc[5]. (Sefydlwyd Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 1994 gan banel Swyddogion Uwch Iechyd yr Amgylchedd yng Nghymru - fel y'u gelwyd ar y pryd[6].)
Sylweddauorganig anweddol. Er enghraifft asetaldehyd, acrolein, bensin[11], 1,3-bwtadien[12], fformaldehyd a hydrocarbonau amlgylchog[13]. Hefydmethan (CH4) a sylweddau'n cynnwysClorin aFflworin[14].
Locomotif Diesel o Yaroslavl, Rwsia (2013) - gydag allyriant gronynnau mân du.
Mae sawl math obeiriant tanio mewnol. Dau fath, yn bennaf, a welir yn pweru cerbydau ffyrdd a rheilffyrdd y byd: y peiriantpetrol a'r peiriant diesel. Mae'r ddau'n gyfrifol am allyriadau a all lygru'r awyr ac o'r herwydd, yn gynyddol yn destun cyfreithiau sy'n ymwneud â diogeli'r amgylchedd[17]. Oherwydd cymhareb cywasgedd uwch (a'r tymheredd llosgi gysylltiedig) mae'r peiriant diesel yn fwy effeithiol na'r peiriant petrol wrth ryddhau egni cemegol tanwydd hydrocarbon. O'r herwydd, mae iddo lai o droednodCO2, ac felly'n fanteisiol o safbwyntnewid hinsawdd. Ond am sawl rheswm mae'n cynhyrchu mwy o allyriadau ocsidau nitrogen wrth initrogen yr awyr losgi gyda'rtanwydd yn y silindr. Hyn oherwydd y tymheredd uwch a'r ffaith fod fwy oocsigen yn y silindr na sydd ei angen i lwyr losgi'r tanwydd[18]. Bu hyn yn destun scandal a ddaeth i'r wyneb yn 2015 wrth iddo ymddangos fod ambell gynhyrchwr ceir wedi twyllo profion annibynnol yn fwriadol[19]. Arweiniodd hyn i gryn drafodaeth o fewn ac o'r tu allan i'r diwydiant ceir[20].
Yn ogystal â'r cemegau anweddol, mae allyriad peiriant diesel hefyd yn cynnwysgronynnau soled microsgopig. Dosbarthir y rhain yn ôl eu maint a'u cynnwys. Y mathau mân a tra-mân sydd o bwys i iechyd gan eu bod yn cyrraedd cilfachau cila'rysgyfaint. Gronynnau carbon ydynt yn bennaf, sydd yn cynnwys olion sylweddauorganaidd, sylffad, nitrad,metalau acelfennau hybrin eraill[13].
Yn sgil hyn oll aethpwyd ati i gynllunio, cynhyrchu a marchnataceir nad ydynt yn defnyddio petrol na diesel; ceir trydan yn bennaf. Un cwmni a sefydlwyd yn unswydd i'r perwyl yw Tesla Inc[21], a ffurfiwyd yn2003. Yn2017 cyhoeddoddVolvo (y cwmni traddodiadol gyntaf i wneud hynny) y byddent yn cynnig motor drydan ar bob un o'i modelau o2019 ymlaen[22]. Yng Ngorffennaf2017 cyhoeddodd LlywodraethFfrainc ei bwriad i wahardd gwerthu ceir sy'n defnyddio petrol neu diesel erbyn 2040[23]. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach cyhoeddodd LlywodraethGweledydd Prydain yr un bwriad ar gyfer ceir newydd[24].