Cnofil bychan hollysol odeuluoedd yMuridae a'rCricetidae ywllygoden (enw benywaidd; lluosog:llygod), sy'n hawdd ei hadnabod ar eithrwyn pigfain,llygaid treiddgar,clustiau crwm achynffon fain ddi-flew neu bron heb flew. Y mwyaf cyffredin ywllygoden y tŷ (Mus musculus) a chaiff ei magu felanifail anwes. Mewn rhai cynefinoedd maellygoden y coed (Apodemus sylvaticus) hefyd yn gyffredin iawn. Mae'nysglyfaeth i rai adar mawr eu maint megis ycudyll, ydylluan a'reryr a mamaliaid eraill megis ygath a'rneidr. Ar adegau maent yn dod i fewn i dai pobl a gallant lochesu oddi fewn i hen waliau.
Gallant ar adegau fod ynbla, gan fwyta a difethacnyda'ramaethwr[1] gan achosi cryn golled a lledaenuafiechydon drwy'rparasitiaid sy'n byw arnynt a thrwy euhysgarthiad.[2] YngNgogledd America, mae anadlu llwch sy'n cynnwys eu hysgarthiad wedi'i gysylltu gydahantavirus, a all, yn ei dro, achosiHantavirus Pulmonary Syndrome (HPS).
Anifailnosol ydynt yn bennaf sy'n dibynnu ar euclyw yn hytrach na'ugolwg.[3][4] Mae eu synnwyrarogli hefyd wedi'i fireinio'n arbennig iawn, yn enwedig er mwyn canfod bwyd a lleolihelwyr fel cathod.[5]
Crogi llygoden: Yn nhrydedd gainc yMabinogi (sef chwedlManawydan fab Llŷr) maeManawydan, brawdBranwen aBrân Fendigaid aPhryderi yn dychwelyd i Ddyfed, lle mae Pryderi yn cael ei gaethiwio mewn caer hud, ac yna maeRhiannon hithau yn cael ei charcharu wrth geisio ei achub, gan adael dim ond Manawydan a Chigfa ar ôl. Ymhen dwy flynedd mae Manawydan yn dal un o'r llygod sydd wedi bod yn bwyta ei ŷd, ac yn mynd ati i'w chrogi. Daw ysgolhaig, offeiriad ac yna esgob heibio i geisio perswadio Manawydan i beidio crogi'r lygoden. Datgelir mai gwraig feichiogLlwyd fab Cil Coed yn rhith llygoden ydyw, ac mai Llwyd a osododd yr hud ar Ddyfed fel dial am y modd y cafodd ei gyfaillGwawl fab Clud ei gamdrin ganPwyll yn y gainc gyntaf. Rhyddheir ei wraig ar yr amod ei fod yn rhyddhau Pryderi a Rhiannon a chodi'r hud.