![]() Tudalen flaenHow I Found Livingstone (1872), un o lyfrau'r fforiwrHenry Morton Stanley am ei deithiau trwyAffrica. | |
Enghraifft o: | dosbarth llenyddol ![]() |
---|---|
Math | naratif, gwaith llenyddol ![]() |
![]() |
Genrelenyddol ywllenyddiaeth taith[1] sydd yn disgrifio profiadau'r awdur wrth iddynt deithio o amgylch man dieithr, gan gofnodi'r bobl, digwyddiadau, golygfeydd a theimladau. Mae'r pwnc yn debyg i gynnwys teithlyfr cyffredinol ytwrist, o ran gwybodaeth am yr ardal dan sylw, ond caiff ei ystyried o'r un gwerth â llenyddiaeth greadigol, gyda naratif personol llawn myfyrdodau a barnau'r awdur, yn ogystal â sylwadau ar y gymdeithas a diwylliant lleol a chyd-destun hanesyddol.Llenyddiaeth ffeithiol ydyw fel rheol, er bod rhai llenorion taith yn euog o orliwio neu hyd yn oed ffugio'u profiadau. Mae'rnofel deithio yn ffurfffuglennol ar lenyddiaeth taith.
Er mwyn i'r gwaith gael ei ystyried yn llenyddiaeth, rhaid fod ganddo naratif cydlynus, neu fewnweledigaeth a gwerth sydd yn fwy na chofnodi dyddiadau a digwyddiadau'n unig, er enghraifft mewndyddiadur neu log llongau. Mae llenyddiaeth sy'n olrhain anturiaethau ac archwiliadau yn aml yn cael eu categoreiddio o dan llenyddiaeth taith ond mae iddo hefyd ei genre ei hun o lenyddiaeth awyr agored; yn aml, bydd y mathau yma o lenyddiaeth yn gor-gyffwrdd heb unrhyw ffiniau cadarn.
Gellir olrhain llenyddiaeth am deithiau yn ôl i weithiau hynafol megis hanesionHerodotus a disgrifiadPausanias oRoeg yr Henfyd. Mae esiamplau nodedig o'r Oesoedd Canol yn cynnwys hunangofiantMarco Polo acHanes y Daith Trwy Gymru ganGerallt Gymro.