Fel arfer, maellyfr yn golygu testun wedi ei sgrifennu neu ei argraffu ar bapur sydd wedi ei rwymo mewn clawr. Ers rhai blynyddoedd maee-lyfrau ar gael, sef llyfrau ar ffurf meddalwedd y gellir eu darllen gan beiriant arbennig. Daw'r enw Cymraeg "llyfr" o'rLladin "liber".[1]
Sgrifennwyd y "llyfrau" cyntaf arglai,papurfrwyn neufemrwn. Cyn dyfeisio'r wasg argraffu, roedd pob llyfr ynllawysgrif a felly yn gostus iawn i'w gynhyrchu ac fel arfer wedi eu hysgrifennu gan fynachod. O ganlyniad, dim ond eglwysi, prifysgolion a phobl cyfoethog oedd yn berchen ar lyfrau. Un o lawysgrifau hynaf Cymru i oroesi ywLlyfr Du Caerfyrddin (12g).
Dyfeisiwyd y wasg argraffu gyntaf yn yDwyrain Pell ganrifoedd cyn iEwrop ei dyfeisio. Y llyfr argraffedig hynaf yw'rSwtra Diemwnt. Roedd rhaid cerfio'r dudalen cyfan ar astedd bren, a oedd yn waith caled iawn.Pi Sheng a ddefnyddiodd llythrennau symudol gyntaf tua1045 ynTsieina, ond does dim un o'r llyfrau a argraffodd wedi goroesi.
YnEwrop, dyfeisiwyd yrargraffwasg gyntaf ganJohannes Gutenberg (tua1450). O ganlyniad, roedd llyfrau yn rhatach nac erioed ac o ganlyniad roedd yn haws dosbarthu gwybodaeth.