Prifddinas yDeyrnas Unedig a phrifddinasLloegr ywLlundain (Saesneg:London). Saif y ddinas ar lan afonTafwys yn ne-ddwyrain Lloegr, gyda phoblogaeth o tua 8,799,728(2021)[1]. Ceir 130 o filltiroedd rhwng Llundain aChaerdydd.
Mae pencadlys a phrif faesrygbi Lloegr ynTwickenham, ardal faestrefol yn ne-orllewin y ddinas. Mae'r ddinas hefyd yn gartref i sawl tîmpêl-droed. Lleolir stadiwm genedlaethol newydd Lloegr ynWembley ers 2007; fe'i codwyd ar gost o £800,000,000.[3]
Mae tarddiad yr enw Llundain yn dal i fod yn ddirgelwch.Sieffre o Fynwy oedd yn gyfrifol am darddiad yr enw cynnar gan iddo ysgrifennu hanes y breninCeltaiddLludd fab Beli, a gymerodd drosodd y ddinas a'i galw'n Kaerlud. Newidiodd yr enw yma dros amser iKaerludien ac ynaLondon. Mae yna ddamcaniaethau eraill dros darddiad y gair, rhai yn dod o'rFrythoneg ac un honiad heb fawr o goel arno yn deillio nôl i'rEingl-sacsonaidd. Mae tystiolaeth fod aneddiadau Brythonig gwasgaredig yn yr ardal yn deillio nôl cyn yRhufeiniaid, ond sefydlwyd yr anheddiad sylweddol cyntaf gan y Rhufeiniaid a'i alw'nLondinium, yn dilyn concwest y Rhufeiniaid yngngwledydd Prydain. Goroesodd yLondinium yma am 17 mlynedd yn unig oherwydd yn y flwyddyn 61 O. C. ymosododdLlwyth yrIceniaid ar Lundain o dan arweiniadBrenhines Buddug (Boundica). Roedd hon yn fuddugoliaeth ysgubol a llosgwyd Llundain (a oedd eisoes yn datblygu'n brifddinasde facto y dalaith) i'r llawr. Mae'r lludw yn dal i gael ei gloddio oddi yno ddwy fil o flynyddoedd yn ddiweddarach.[4]. Ailadeiladwyd Llundain ar ôl yr ymosodiad, a daeth yn brif ddinas ar ôlColchester. Roedd gan y Llundain Rhufeinig boblogaeth o tua 60,000 erbyn yr amser yma.
Yn 450 O.C. roedd Llundain yn parhau i fod yn nwylo'r Brythoniaid.[5]
Erbyn y600au, cododd yr Eingl-sacsonaidd adeiladau newydd a galw'r dref yn Lundenwic a oedd tua 1000 troedfedd i fyny’r afon o’r hen ddinas Rufeinig; bellach a elwir ynCovent Garden. Mae'n debygol y byddai harbwr wedi bod ar aber afon Fleet bryd hynny ar gyfer pysgota a masnachu. Tyfodd y masnachu hyd oni chafodd yr ardal ei goresgyn ganY Llychlynwyr. Bu'n rhaid i’r ddinas ailsefydlu ei hun yn yr hen safle, sef safle Llundain Rufeinig lle'r oedd yna furiau i'w hamddiffyn. Parhaodd yr ymosodiadau gan y Llychlynwyr yn ne-ddwyrain Lloegr tan 886 pan ail-gipioddAlfred Fawr y ddinas a chreu heddwch efo’r arweinydd Daneg, Guthrum. Daeth y ddinas Sacsonaidd, wreiddiol sef ‘’Lundenwic’’ yn ‘’Ealdwic’’ (Hen Ddinas), enw a oroesodd tan heddiw fel ‘’Aldwych’’, sydd ynNinas Westminster.
Map o Lundain yn 1300
Mewn dial, ymosododd byddin y Saeson gan ddymchwel "Pont Llundain". Roedd y Saeson yn ôl, ac yn rheoli mewn safle pwerus. DaethCanute Fawr i rym yn 1016, arweiniodd y ddinas tan ei farwolaeth yn 1035. Pan fu farw, dychwelodd arweiniad y dalaith i'r Sacsoniaid. Erbyn hyn, roedd Llundain yn un o ddinasoedd mwyaf (a mwyaf ffyniannus)Lloegr er bod pencadlys y llywodraeth ynWinchester. Yn dilyn buddugoliaethBrwydr Hastings yn 1066, coronwydGwilym y Gorchfygwr ac ynaDug Normandi fel Brenin Lloegr mewn abaty newydd ynWestminster ar ddydd Nadolig 1066. RhoddoddGwilym (William) freintiau i’r dinasyddion, ac ar yr un pryd adeiladwydTŵr Llundain i gadw trefn ar ei dinasyddion.
Dechreuwyd adeiladuPalas San Steffan yn 1097 yn agos iAbaty Westminster. Mae'r parth hwnnw oWestminster wedi bod yn ardal lywodraethol o’r cyfnod hwnnw hyd heddiw. Tyfodd Llundain mewn cyfoeth a phoblogaeth yn ystod yrOesoedd Canol. Yn 1100 roedd poblogaeth Llundain tua 18,000; erbyn 1300 tyfodd i bron 100,000. GwaharddoddBrenin Edward Iddewon o'r ddinas a lleihaodd y boblogaeth.
Daeth trychineb yPla du yn y 14g. Collodd Llundain traean o’i phoblogaeth. Roedd yn weddol dawel yn ystod y canol oesoedd, oni bai am rhai rhyfeloedd cartref megisRhyfeloedd y Rhosynnau. Ar ôl trechu'rArmada Sbaeneg yn 1588, cafwyd sefydlogrwydd llywodraethol a gwelwyd twf yn y ddinas. Yn 1603 daethIago, brenin Lloegr (I) a'r Alban (VI) yn frenin Lloegr. Roedd ei ddeddfau gwrth-Gatholig yn amhoblogaidd iawn, ac felly cafwyd ymgais i'w lofruddio; adnabyddir hyn felCynllwyn y Powdr Gwn ar 5 Tachwedd 1605.
Achosodd y Pla Mawr nifer o broblemau yn Llundain yn gynnar yn yr 17g. Lladdwyd rhwng 70,000 a 100,000 yn y pla rhwng 1665-66. Daeth y pla i ben fwy na thebyg oherwydd i’rdân mawr Llundain, ei glirio yn 1666. Cynnwyd y tân yn y ddinas wreiddiol ac ymledodd drwy’r adeiladau pren a'r toeau gwellt. Cymerodd yr ailadeiladu 10 mlynedd i'w hailadeiladu.
Yn dilyn twf mawr Llundain yn y 18g, fe gafodd yr anrhydedd o'i galw'r ddinas fwyaf yn y byd o 1831 i 1925. Arweiniodd y cynnydd mewn cludiant at adeiladu’r system danddaearol cyflyma'r byd.
Lladdwyd dros 30,000 o bobl yn ystodY Blitz gan ddinistrio nifer fawr o adeiladau ar draws Llundain.
Awdurdodau lleol o fewnLlundain Fwyaf ywBwrdeistrefi Llundain (Saesneg:London Boroughs). Ceir 32 o Fwrdeistrefi Llundain ynghyd âDinas Llundain, nad yw'n cael ei hystyried yn fwrdeistref.
Yn anad un ddinas arall yn Lloegr mae gan Lundain gysylltiadau hir âChymru. MaeCymry Llundain wedi cael eu disgrifio fel "yr hynaf a'r fwyaf o'r holl gymunedau o alltudion o Gymru". O'r Oesoedd Canol Diweddar ymlaen, ceir cofnodion am Gymry yn ymweld â Llundain – ac weithiau'n aros yno – fel milwyr hur, masnachwyr, ac ati. Erbyn canol y 18g roedd cymuned bur sylweddol o Gymry alltud yn byw yno, naill ai dros dro neu'n barhaol. Am fod Cymru yn amddifad o brifddinas a chanolfannau trefol mawr, daeth Llundain yn ganolbwynt i lenorion a hynafiaethwyr hefyd a sefydlwyd sawl cymdeithas ddiwylliannol wladgarol yno, gan gynnwys yGwyneddigion a'rCymmrodorion. SefydlwydYsgol Gymraeg Llundain a fu'n gartref dros dro i gasgliad pwysig olawysgrifau Cymraeg.
Daeth newid pwysig yn y 1950au a'r 1960au gyda chyhoeddiCaerdydd yn brifddinas Cymru a'r cynnydd mewn gwaith gweinyddol a ddaeth yn sgil hynny, a lleihaodd nifer y Cymry a aethai i Lundain er mwyn eu gyrfa broffesiynol. Amcangyfrifir gan rai bod tua 100,000 o bobl a aned yng Nghymru (heb sôn am bobl o dras Gymreig) yn byw yn Llundain heddiw, ond erbyn hyn mae rhwymau cymdeithas wedi llacio a bychan iawn mewn cymhariaeth â'r hen ddyddiau mae cymdeithas Gymraeg/Gymreig y ddinas erbyn heddiw.