Mae'rlinell amser ganlynol wedi'i seilio ar y damcaniaethau a oedd yn dderbyniol yn 2016, ac yn dilyn trefn gronolegol esblygiad bywyd ary Ddaear.
Mewnbywydeg, maeesblygiad yn digwydd ar draws nifer o genedlaethau o fewngenynnaurhywogaethau. Yn ei dro, mae esblygiad wedi creucyfoeth yr amrywiaeth, a hynny ym mhob lefel biolegol: o'rdeyrnasoedd i rywogaethau ac organebau unigol, ac ymhellach - i'rmoleciwlau a'rprotinau oddi fewn iddynt. Mae'r tebygrwydd rhwng pob un o'r rhain yn brawf iddynt oll darddu o'r un hynafiad; o'r hynafiad hwn y daeth pob rhywogaeth (boed yn fyw heddiw neu wedi'iddifodi, gan addasu drwy'r broses a elwir yn 'esblygiad'. Mae dros 99% o'r holl rywogaethau (dros 5 biliwn ohonynt)[1] sydd wedi byw ar y blaned hon ers iddi gael ei chreu, bellach, wedi'u difodi.[2][3] Amcangyfrifir fod rhwng 10 miliwn ac 14 miliwn o rywogaethau'n fyw heddiw,[4] gyda tua 1.2 miliwn ohonynt wedi'u cofnodi a 86 heb eu cofnodi.[5]