
Llinell Oder-Neisse (Pwyleg:Granica na Odrze i Nysie Łużyckiej,Almaeneg:Oder-Neiße-Grenze) yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer y ffin a osodwyd rhwngyr Almaen aGwlad Pwyl ar ddiwedd yrAil Ryfel Byd.
Ffurfir y rhan fwyaf o'r ffin ganafon Neisse yn y rhan ddeheuol, ac yna ganafon Oder wedi i afon Neisse lifo i mewn iddi. Mae'r ffin yn cyrraedd yMôr Baltig ychydig i'r gorllewin o borthladdoeddSzczecin (Almaeneg:Stettin) aŚwinoujście (Swinemünde). Rhoddwyd y cyfan o diriogaethauGweriniaeth Weimar oedd i'r dwyrain o'r llinell yma, 23.8% o'r cyfanswm, i wlad Pwyl neu'rUndeb Sofietaidd. Gorfodwyd y rhan fwyaf o'r trigolion Almaenig yn yr ardaloedd hyn i adael. Aeth y cyfan oDdinas Rydd Danzig, bu'n gymaint o ffocws i anniddigrwydd yr Almaenwyr cyn y Rhyfel, i'r weriniaeth Bwylaidd ar ei newydd wedd.
Codwyd y ffin newydd yma rhwng yr Almaen a Gwlad Pwyl ganStalin yngCynhadledd Tehran ym mis Rhagfyr 1943. Cadarnhawyd y penderfyniad yngNghynhadledd Potsdam yn haf 1945 yn fuan wedi diwedd y Rhyfel yn Ewrop.