![]() | |
Enghraifft o: | clefyd heintus, dosbarth o glefyd ![]() |
---|---|
Math | candidïasis, vulvovaginitis, clefyd y waun,clefyd ![]() |
Symptomau | Brech ![]() |
![]() |
Maellindag y wain (candida, candidiasis fwlfaweiniol neu gandidosis gweiniol) yn haint burum a achosir ganffwng Candida albicans. Menywod yn eu tridegau a'u pedwar degau a'r rhai sy'n feichiog yw'r rhai yr effeithir arnynt yn fwyaf cyffredin. Mae llindag gweiniol yn effeithio ar lawer o fenywod yn ystod eu bywyd.
Ceir y ffwng Candida albicans yn naturiol yn y wain ac mae'n ddiberygl. Pan fydd yn lluosi gall achosicosi poenus a chwydd yn y wain a'rfwlfa. Yn y rhan fwyaf o achosion gellir trin llindag yn effeithiol. Nid yw'n hysbys pam mae rhai menywod yn fwy tueddol o gael llindag nag eraill.[1]
Mae symptomau llindag y wain yn cynnwys:
Ynghyd â'r symptomau llindag uchod, gallwch hefyd gael llid fwlfaweiniol. Mae arwyddion llid fwlfaweiniol yn cynnwys:
Mae rhedlif gweiniol yn symptom cyffredin o lindag gweiniol. Yn aml mae'n wyn ac 'yn debyg i gaws', ond gall hefyd fod yn ddyfrllyd neu’n grawnllyd (yn cynnwys crawn). Fel rheol mae'r rhedlif yn ddiarogl.
Mae'r diagnosis yn gyffredinol yn seiliedig ar y symptomau. Mewn achosion mwy dyfalbarhaol o lindag gweiniol a llindag y pidyn gallai fod angen profi sampl neu swab.Trin llindag
Mae'r triniaethau ar gyfer llindag yn cynnwys cymryd neu roi moddion gwrthffwngaidd. Gall y rhain fod yn losin ar gyfer llindag y geg, moddion a gymerir, hufenau neu besarïau gweiniol ar gyfer llindag yr organau cenhedlu. Mae gan lawer o'r cyfryw foddion strwythur cemegol cyffredin a ddynodir gan yr olddodiad - asol. Mae enghreifftiau'n cynnwys clotrimasol, ffliwconasol a miconasol.Mae astudiaethau diweddar wedi dangos y gall defnyddio strategaeth driniaeth a elwir yn 'therapi cynnal' leihau dychweliad llindag y wain yn sylweddol.
Yn ôl yr astudiaethau mae defnyddio ffliwconasol geneuol yn wythnosol, neu ddefnyddio naill ai itraconasol geneuol neu clotrimasol mewnweiniol, yn fisol, yn effeithiol yn atal llindag rhag dychwelyd.
Ynghyd â defnyddio triniaethau dros y cownter, gall dioddefwyr llindag hefyd wneud nifer o bethau eraill i helpu i leddfu'r broblem. Mae'r rhain yn cynnwys:
|accessdate=
(help)