Yllanw yw ymchwydd a mewnlifiad rheolaidd lefel dyfroedd ymôr mewn canlyniad i rym atyniaddisgyrchiant rhwng yddaear, ylleuad a'rhaul. Mae newidiadau mewn lleoliad cymharol y tri chorff hyn yn achosi amrywiad yng ngraddfa'r llanw. Mae'r rhan fwyaf o lefydd yn y byd yn cael llanw dwywaith y dydd ond gan fod 'diwrnod llanw' yn parhau am 24 awr 51 munud nid ydynt yn digwydd ar yr un amser bob dydd o'r flwyddyn a chynhyrchir gwybodlenni arbennig yn lleol i ddangos hynny.
Mae hogia ifanc oAberdaron yn cytuno nad oes yna'r fath beth â “llanw isel”.
- llanw - pan mae'r môr i mewn,
- llenwi - y broses o'r llanw yn dod i mewn. ('Mae'n llenwi'n gyflym hogia‘)
- penllanw -high tide (Mae yna lanw uchal wythnos nesa: cyfeira hyn atspring tide pan mae'r môr yn uwch na'r arfer, rhyw ddwywaith dair y flwyddyn.
- gorllan - penllanw.
- llinell gorllan -high tide mark, y llinell a welir ar y creigiau sy'n dangos pa mor uchel y mae'r môr yn codi.
- trai - y môr allanMae hi'n treio - y broses o'r môr yn mynd allan (ebbing)
- distyll - y trai pella. Dywed pysgotwyr ”awn ni allan ar y distyll' (y pysgod yn dwad i mewn efo'r llanw) h.y. fel mae'r môr yn troi ac yn dechra llenwi eto.
Mae trai mawr yn syrthio i'r un categori a llanw uchal sef y pellter mwya arSpring tide e.e. ar drai mawr mae'n bosib gweld olion yr hen goedwig ar draeth Porth Neigwl. Efallai fod yna erbyn heddiw ddefnydd o 'ben trai' yn hytrach na distyll, ac o ddewis, mae hynny yn well na llanw isel.[1]
Llanw mawr (spring tide)
Llanw bach (neap tide)
Newid llanw