![]() | |
Math | cymuned,tref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 9,519 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bro Morgannwg ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4062°N 3.475°W ![]() |
Cod SYG | W04000918 ![]() |
Cod OS | SS975685 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jane Hutt (Llafur) |
AS/au y DU | Kanishka Narayan (Llafur) |
![]() | |
Tref achymuned ym mwrdeistref sirolBro Morgannwg,Cymru ywLlanilltud Fawr[1] (Saesneg:Llantwit Major).[2]
Cynrychiolir yr ardal hon ynSenedd Cymru ganJane Hutt (Llafur)[3] ac ynSenedd y DU gan Kanishka Narayan (Llafur).[4]
Ceir olion hen filaRhufeinig tua 1 filltir o'r dref.
Mae heneglwys Sant Illtud yn enwog iawn. Mae'n sefyll ar safle'r hen fynachlog (clas) a sefydlwyd yno gan y sant yn y 6g. Daeth yn ganolfandysg bwysig a dylanwadol yn yr Oesoedd Canol cynnar. Roedd yn mwynhau nawdd brenhinoedd felHywel ap Rhys, breninGlywysing (m.886), a gladdwyd yno. Cafodd mynachlog Llanilltud ei hanreithio gan yLlychlynwyr yn988. Daeth yr eglwys yn eiddoAbaty Tewkesbury tua1130 ar ôl i'rNormaniaid orsegynteyrnas Morgannwg.
Mae'n bosibl fod y barddLewys Morgannwg (fl.1520-1565) wedi byw yn Llanilltud Fawr, er ei fod yn frodor oDir Iarll. Canodd gerdd i Illtud Sant sydd ar glawr heddiw.
Yn y flwyddyn 1100 yr ymddengys y gair yn gyntaf yn ysgrifenedig, "Llan Iltut", sy'n dangos yn amlwg mai "Illtud" yw tarddiad y gair, nid "twit" (Llantwit Major ydy'r gair yn Saesneg).
Mae gan y dref glwbpêl-droed sy'n chwarae yn uchel lefelau y gêm yng Nghymru. BuC.P.D. Llanilltud Fawr chwarae yn nhymor agoriadol cynghrairCymru South, sef ail lefel system byramid pêl-droed yng Nghymru.
Yngnghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Llanilltud Fawr (pob oed) (9,486) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanilltud Fawr) (882) | 9.6% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanilltud Fawr) (5902) | 62.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llanilltud Fawr) (1,401) | 34.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Trefi
Y Barri ·Y Bont-faen ·Llanilltud Fawr ·Penarth
Pentrefi
Aberogwr ·Aberddawan ·Aberthin ·City ·Clawdd-coch ·Corntwn ·Dinas Powys ·Eglwys Fair y Mynydd ·Ewenni ·Ffontygari ·Gwenfô ·Larnog ·Llanbedr-y-fro ·Llancarfan ·Llancatal ·Llandochau ·Llandochau Fach ·Llandŵ ·Llanddunwyd ·Llan-faes ·Llanfair ·Llanfihangel-y-pwll ·Llanfleiddan ·Llangan ·Llansanwyr ·Llwyneliddon ·Llyswyrny ·Marcroes ·Merthyr Dyfan ·Ogwr ·Pendeulwyn ·Pen-llin ·Pennon ·Pen-marc ·Y Rhws ·Sain Dunwyd ·Saint Andras ·Sain Nicolas ·Sain Siorys ·Sain Tathan ·Saint-y-brid ·Sili ·Silstwn ·Southerndown ·Trebefered ·Trefflemin ·Tregatwg ·Tregolwyn ·Tresimwn ·Y Wig ·Ystradowen