![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2391°N 4.1517°W ![]() |
Cod OS | SH565735 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref yngnghymunedCwm Cadnant,Ynys Môn, ywLlandegfan[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ne-ddwyrain yr ynys, ar ffordd gefn ychydig i'r gogledd-ddwyrain o drefPorthaethwy ac i'r gogledd o briffordd yrA545 rhwng Porthaethwy aBiwmares.
Mae'r pentref mewn dwy ran; y pentref gwreiddiol yw'r hyn a elwir yn awr yn Hen Landegfan, o gwmpas yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i SantTegfan. Tyfodd y rhan arall, sydd gryn dipyn yn fwy, i'r de o'r hen bentref ac yn nes at yr A545. Codwyd ystad newydd yn y pentref o'r enw Gwêl y Llan yn 2003 - sef y datblygiad mwyaf diweddar yn y pentref. Mae yna siop fach ar gornel Lôn Ganol a hefyd mae yna Ysgol Gynradd fawr yno, hefo dros 120 o blant yno. Poblogaeth y pentref (2010) yw 927.[3]
Mae yna Neuadd y Plwyf yn y pentref, lle mae cyfarfodydd, digwyddiadau elusen, a hefyd y clwb ieuenctid yn cael ei gynnal. Mae yna barc chwarae tu allan i'r neuadd.
Mae yna dafarn o'r enw Pen y Cefn, sydd yn sefyll wrth ymyl hen felin a chafodd ei ddefnyddio llawer o flynyddoedd yn ôl.
Gweithio yn ninasBangor y mae'r mwyafrif o'r trigolion.
CynhaliwydEisteddfod Môn 2008 yn Llandegfan.
Mae yna dim pêl-droed yn y pentref,CPD Llandegfan sydd yn chwarae ar gae Lôn Tŷ Newydd. Mae'r clwb wedi cael trafferthion ariannol yn y gorffennol, ond rwan erbyn 2018 mae'r tim wedi ail-sefydlu ac maen nhw yn chwarae yngNghynghrair Ynys Môn.
Mae'r Ysgol Gynradd hefo cyfleusterau chwaraeon cymharol well na lot o ysgolion o'i gwmpas. Mae gan yr ysgol dimau pêl-droed, rygbi 'tag', pêl-rwyd, hoci, a nofio.
Mae'r tafarn yn cynnal clybiau dartiau a hefyd snwcer/pŵl.
BuAled Jones yn byw yma pan oedd ei fam yn athrawes yn yr ysgol gynradd.
Trefi
Amlwch ·Benllech ·Biwmares ·Caergybi ·Llangefni ·Niwbwrch ·Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw ·Bethel ·Bodedern ·Bodewryd ·Bodffordd ·Bryngwran ·Brynrefail ·Brynsiencyn ·Brynteg ·Caergeiliog ·Capel Coch ·Capel Gwyn ·Carmel ·Carreglefn ·Cemaes ·Cerrigceinwen ·Dwyran ·Y Fali ·Gaerwen ·Glyn Garth ·Gwalchmai ·Heneglwys ·Hermon ·Llanallgo ·Llanbabo ·Llanbedrgoch ·Llandegfan ·Llandyfrydog ·Llanddaniel Fab ·Llanddeusant ·Llanddona ·Llanddyfnan ·Llanedwen ·Llaneilian ·Llanfachraeth ·Llanfaelog ·Llanfaethlu ·Llanfair Pwllgwyngyll ·Llanfair-yn-Neubwll ·Llanfair-yng-Nghornwy ·Llan-faes ·Llanfechell ·Llanfihangel-yn-Nhywyn ·Llanfwrog ·Llangadwaladr ·Llangaffo ·Llangeinwen ·Llangoed ·Llangristiolus ·Llangwyllog ·Llanidan ·Llaniestyn ·Llannerch-y-medd ·Llanrhuddlad ·Llansadwrn ·Llantrisant ·Llanynghenedl ·Maenaddwyn ·Malltraeth ·Marian-glas ·Moelfre ·Nebo ·Pencarnisiog ·Pengorffwysfa ·Penmynydd ·Pentraeth ·Pentre Berw ·Pentrefelin ·Penysarn ·Pontrhydybont ·Porthllechog ·Rhoscolyn ·Rhosmeirch ·Rhosneigr ·Rhostrehwfa ·Rhosybol ·Rhydwyn ·Talwrn ·Trearddur ·Trefor ·Tregele