Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Llanasa

Oddi ar Wicipedia
Llanasa
Mathpentref,cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,343 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir y Fflint Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.322°N 3.344°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000195 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ1064981425 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruHannah Blythyn (Llafur)
AS/au y DURob Roberts (Ceidwadwyr)
Map

Pentref bychan,cymuned a phlwyf eglwysig ynSir y Fflint,Cymru, ywLlanasa.[1][2] Mae'n gorwedd tua 300 troedfedd i fyny wrth droed yr olaf oFryniau Clwyd, tua 2 filltir a hanner i'r dwyrain oBrestatyn yng ngogledd-orllewin Sir Fflint. Y pentrefi cyfagos ywTalacre aGwesbyr i'r gogledd,Ffynnongroyw i'r dwyrain aGwaenysgor aThrelawnyd i'r gorllewin.

Yn ogystal â phentref Llanasa ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefiGronant,Gwesbyr,Pen-y-ffordd,Talacre,Trelogan aFfynnongroyw; mae hefyd yn cynnwysy Parlwr Du, y pwll glo mwyaf yn Sir y Fflint.

Cynrychiolir yr ardal hon ynSenedd Cymru ganHannah Blythyn (Llafur)[3] ac ynSenedd y DU gan Rob Roberts (Ceidwadwyr).[4]

Llanasa o'r awyr
Tai yn Llanasa

Hanes

[golygu |golygu cod]

Enwir y plwyf ar ôl SantAsa (Asaph). Ceir plasdy Castell Gyrn ar gyrion y pentref.

Yn yr Oesoedd Canol roedd beddfaen a chreiriau Sant Asaph ar gadw yn Eglwys Llanasa cyn iddynt gael eu symud iEglwys Gadeiriol Llanelwy, rywbryd cyn y flwyddyn 1281. Yn ddiweddarach yn yr Oesoedd Canol, claddwydGruffudd Fychan, tadOwain Glyndŵr, yn yr eglwys hynafol hon. Mae ei feddfaen cerfiedig yn goroesi: ceir arno y geiriau LladinHIC LACET GRVFVD VACHAN ("Yma y gorwedd Gruffudd Fychan"). Yn ôl cofnodion yr eglwys, roedd y garreg hon yn gorwedd yng nghanol y côr deheuol ar un adeg. Ymddengys y cafodd corff Gruffudd Fychan ei gladdu yno tua 1369-1370 (ceir peth ansicrwydd am ddyddiad ei farwolaeth). Mae lleoliad ei weddillion yn anhysbys heddiw.[5]

Cyfrifiad 2011

[golygu |golygu cod]

Roedd poblogaeth y gymuned yn 4,820 yn2001. Yngnghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[6][7][8]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanasa (pob oed) (4,353)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanasa) (879)
  
20.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanasa) (2119)
  
48.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanasa) (781)
  
40.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

[golygu |golygu cod]

Ganwyd a magwyd y croniclydd a chyfieithyddElis Gruffydd (c.1490-c.1552) yn Llanasa.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru".Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 12 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5. [1]
  6. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  8. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
gw  sg  go
Trefi a phentrefiSir y Fflint

Trefi
Bagillt  ·Bwcle  ·Caerwys  ·Cei Connah  ·Y Fflint  ·Queensferry  ·Saltney  ·Shotton  ·Treffynnon  ·Yr Wyddgrug
Pentrefi
Abermor-ddu  ·Afon-wen  ·Babell  ·Bretton  ·Brychdyn  ·Brynffordd  ·Caergwrle  ·Carmel  ·Cefn-y-bedd  ·Cilcain  ·Coed-llai  ·Coed-talon  ·Cymau  ·Chwitffordd  ·Ewlo  ·Ffrith  ·Ffynnongroyw  ·Gorsedd  ·Gronant  ·Gwaenysgor  ·Gwernymynydd  ·Gwernaffield  ·Gwesbyr  ·Helygain  ·Higher Kinnerton  ·Yr Hôb  ·Licswm  ·Llanasa  ·Llaneurgain  ·Llanfynydd  ·Llannerch-y-môr  ·Maes-glas  ·Mancot  ·Mostyn  ·Mynydd Isa  ·Mynydd-y-Fflint  ·Nannerch  ·Nercwys  ·Neuadd Llaneurgain  ·Oakenholt  ·Pantasaph  ·Pant-y-mwyn  ·Penarlâg  ·Pentre Helygain  ·Pen-y-ffordd  ·Pontblyddyn  ·Pontybotgyn  ·Rhes-y-cae  ·Rhosesmor  ·Rhyd Talog  ·Rhyd-y-mwyn  ·Sandycroft  ·Sealand  ·Sychdyn  ·Talacre  ·Trelawnyd  ·Trelogan  ·Treuddyn  ·Ysgeifiog

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Llanasa&oldid=13088677"
Categorïau:
Chategori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp