Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Llanallgo

Oddi ar Wicipedia
Llanallgo
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3413°N 4.2557°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH503855 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/au y DULlinos Medi (Plaid Cymru)
Map

Pentref bychan yngnghymunedMoelfre, Ynys Môn,Ynys Môn, ywLlanallgo[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yng ngogledd-ddwyrain yr ynys gerllaw pentrefMoelfre, ar lôn yrA5025.

Hanes

[golygu |golygu cod]

Eglwys

[golygu |golygu cod]

Mae Eglwys Sant Gallgo yng nghanol y pentref. Dywedir fodGallgo/Allgo yn un o feibionGildas, felly gall fod y safle yn dyddio i'r 6g. Nid oes unrhyw weddillion o'r cyfnod hwnnw i'w gweld; mae'r rhan fwyaf o'r eglwys bresennol yn ganlyniad ail-adeiladu yn y19g.

YRoyal Charter

[golygu |golygu cod]

Daeth Llanallgo i sylw pan ddrylliwyd y llongRoyal Charter ar y creigiau gerllaw yn Hydref1859. Ym mynwent Llanallgo y claddwyd y rhan fwyaf o'r cyrff a gafodd eu darganfod, a gellir gweld y beddau a chofeb yn y fynwent. Daeth rheithor Llanallgo ar y pryd, y ParchedigStephen Roose Hughes, i amlygrwydd hefyd trwy ei ymdrechion yn gofalu am y cyrff, ceisio darganfod pwy oeddynt a chysuro'r teuluoedd. Credir i hyn achosi ei farwolaeth gynamserol ef ei hun yn fuan wedyn. Gellir gweld ei fedd yn y fynwent, ac mae pobl yr ardal yn parhau i ofalu amdano.

Cofeb y Royal Charter ym mynwent Llanallgo

Hynafiaethau

[golygu |golygu cod]

Mae nifer o hynafiaethau gerllaw, yn cynnwys siambr gladduLligwy, olion taiDin Lligwy, oedd yn drigfan pennaeth neu uchelwr brodorol yng nghyfnod yRhufeiniaid a gweddillionCapel Lligwy o'r12g.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru".Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 15 Rhagfyr 2021
gw  sg  go
Trefi a phentrefiYnys Môn

Trefi
Amlwch  ·Benllech  ·Biwmares  ·Caergybi  ·Llangefni  ·Niwbwrch  ·Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw  ·Bethel  ·Bodedern  ·Bodewryd  ·Bodffordd  ·Bryngwran  ·Brynrefail  ·Brynsiencyn  ·Brynteg  ·Caergeiliog  ·Capel Coch  ·Capel Gwyn  ·Carmel  ·Carreglefn  ·Cemaes  ·Cerrigceinwen  ·Dwyran  ·Y Fali  ·Gaerwen  ·Glyn Garth  ·Gwalchmai  ·Heneglwys  ·Hermon  ·Llanallgo  ·Llanbabo  ·Llanbedrgoch  ·Llandegfan  ·Llandyfrydog  ·Llanddaniel Fab  ·Llanddeusant  ·Llanddona  ·Llanddyfnan  ·Llanedwen  ·Llaneilian  ·Llanfachraeth  ·Llanfaelog  ·Llanfaethlu  ·Llanfair Pwllgwyngyll  ·Llanfair-yn-Neubwll  ·Llanfair-yng-Nghornwy  ·Llan-faes  ·Llanfechell  ·Llanfihangel-yn-Nhywyn  ·Llanfwrog  ·Llangadwaladr  ·Llangaffo  ·Llangeinwen  ·Llangoed  ·Llangristiolus  ·Llangwyllog  ·Llanidan  ·Llaniestyn  ·Llannerch-y-medd  ·Llanrhuddlad  ·Llansadwrn  ·Llantrisant  ·Llanynghenedl  ·Maenaddwyn  ·Malltraeth  ·Marian-glas  ·Moelfre  ·Nebo  ·Pencarnisiog  ·Pengorffwysfa  ·Penmynydd  ·Pentraeth  ·Pentre Berw  ·Pentrefelin  ·Penysarn  ·Pontrhydybont  ·Porthllechog  ·Rhoscolyn  ·Rhosmeirch  ·Rhosneigr  ·Rhostrehwfa  ·Rhosybol  ·Rhydwyn  ·Talwrn  ·Trearddur  ·Trefor  ·Tregele

Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Llanallgo&oldid=13088667"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp