Prifddinas a dinas fwyafSlofenia ywLjubljana (EidalegLubiana,AlmaenegLaibach,Lladin newyddLabacus). Saif arAfon Ljubljanica yng nghanol y wlad yn nhalaith hanesyddolCarniola. Hon yw canolfan wleidyddol, masnachol a diwylliannol Slofenia. Mae'n gartref i archesgobaeth babyddol ynghyd âphrifysgol hyna'r wlad. Symbol y ddinas yw'r ddraig werdd a welir ar ei harfbais. Ei phoblogaeth yw 265,881 (2002).
oddi wrth yLladinalluviana 'afon sy'n gorlifo, afon mewn llif' wedi'i ddefnyddio fel enw priod
oddi wrth y Slofenegljubljena 'annwyl, cu, cariadus'; mae'n debyg tawtarddiad gwerin yn unig yw hyn
Mae'n bosib i'r enw Almaeneg ar gyfer y ddinas,Laibach, darddu olau 'llugoer' abach 'nant'. Yn sicr, daw o enw'r afon y saif Ljubljana arni. Ceir y terfyniad -ach ar lawer o enwau afonydd yn Awstria a de'r Almaen. Erbyn heddiw tueddir i ddefnyddio'r enw Slofeneg hyd yn oed ynyr Almaen.
Arfbais Ljubljana yn dangos y castell a'r ddraig werdd
Er i'rRhufeiniaid sefydlu treflanEmona (Colonia Emona) ar safle Ljubljana, sefydlwyd y ddinas bresennol gan wladychwyrAlmaenig oBayern. Mae'r cyfeiriad cyntaf at y ddinas bresennol, dan ei enwAlmaenegLaibach, yn dyddio i'r flwyddyn1144. Daeth y dref o dan reolaeth yHapsburgiaid yn1335. Heblaw am gyfnod fyr, arhosodd o fewnYmerodraeth Awstria-Hwngari tan1918. Sefydlwyd yr esgobaeth yno yn1461. AdegRhyfeloedd Napoleon, Ljubljana fu prifddinas ytaleithiau Ilyraidd am gyfnod rhwng1809 a1813. Roedd y boblogaeth wedi bod yn siarad Almaeneg yn bennaf o'r cychwyn, ond yn y19g daeth Ljubljana yn ganolfan o ddiwylliantSlofeneg. Erbyn cyfrifiad1880, roedd y siaradwyr Almaeneg (23% o'r boblogaeth) wedi dod yn lleiafrif. Difrodwyd y ddinas yn ddifrifol mewndaeargryn yn1895. Mae llawer obensaernïaeth y ddinas heddiw yn dyddio o'r cyfnod ar ôl y daeargyn, pryd ailadeiladwyd y ddinas mewn arddull neo-glasurol acart nouveau. Cwplhawyd cyfran helaeth o'r adeiladu yn ôl cynlluniau'r pensaer brodorolJože Plečnik yn y1920au a'r1930au. Gyda gorchfygiad Awstria-Hwngari yn yRhyfel Byd Cyntaf, daeth Ljubljana yn rhan oDeyrnas y Serbiaid, Croatiaid a Slofeniaid (wedynIwgoslafia). Meddiannwyd Ljubljana gan luoeddyr Eidal yn Ebrill1941. Dan weinyddiaeth yr Eidal, Lubiana oedd enw swyddogol y ddinas, a chyflwynywd polisi i Eidaleiddio'r ddinas. Parhaodd rheolaeth yr Eidal tan1943, pryd cipiwyd y ddinas gan luoedd Almaenig. Ar ôlyr Ail Ryfel Byd, Ljubljana oedd prifddinasGweriniaeth Sosialaidd Slofenia o fewn ffederasiwn Iwgoslafia, ac, ar ôl datganiad annibyniaeth Slofenia yn1991, prifddinasGweriniaeth Slofenia.