Lisa Palfrey | |
---|---|
![]() Lisa Palfrey, Roc Ystwyth, Aberystwyth, 1987. | |
Ganwyd | 9 Chwefror 1967 ![]() Cymru ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor ![]() |
Mam | Eiry Palfrey ![]() |
Actores oGymru ywLisa Palfrey (ganwyd9 Chwefror1967).
Fe aeth iYsgol Gyfun Llanhari gerPont-y-clun.[1] Mae'n ferch i'r actores ac awdur,Eiry Palfrey.[2] ac mae ganddi ferch,Lowri Palfrey sydd hefyd yn actores.
Dechreuodd actio yn broffesiynol yn 20 oed pan gafodd ran yn chwarae merch 15 oed yng nghyfresThe District Nurse.
Mae'n adnabyddus am chwarae prif ran yn y ffilmThe Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain.[3] Fe aeth ymlaen i serennu yn y ffilm gwltHouse of America,[4] ac mae wedi ymddangos yn ffilm gomediGuest House Paradiso a chyfres deleduCasualty.
Mae wedi chwarae cymeriad "Rhiannedd Frost" yn opera sebonPobol y Cwm.[5] Mae wedi perfformio mewn nifer o ddramau llwyfan yn cynnwys cynhyrchiad gwreiddiol addasiad David Eldridge o Festen[6] aUnder The Blue Sky,[7]The Iceman Cometh[8] gydaKevin Spacey aThe Kitchen Sink.[9]
Yn 2021 chwaraeodd ran Mair yn y ffilm arswyd GymraegGwledd.