Grŵp eang ofoleciwlau sy'n digwydd yn naturiol ydylipidau. Maent yn cynnwysbrasterau,cwyrau,sterolau,fitaminau hydawdd mewn braster (megis fitaminau A, D, E a K),monoglyseridau,diglyseridau,ffosffolipidau, ac eraill. Prif swyddogaethau biolegol lipidau yw storio egni, fel elfennau strwythurolcellbilenni, ac felmoleciwlau signalu.
Yn gyffredinol, gellir diffinio lipidau fel moleciwlau bychanhydroffobig neuamffiffilaidd; mae natur amffiffilaidd rhai lipidau yn eu galluogi i greu strwythurau megispothelli,liposomau, neu cellbilenni mewn amgylchedd dyfrog. Tarddia lipidau biolegol yn gyfangwbl neu'n rhannol mewn dau fath penodol o is-unedau biogemegol neu "flociau adeiladu": y grŵpiaucetonasyl acisoprene.[1] Gan ddefnyddio'r dechneg hon, gellir rhannu lipidau i mewn i wyth categori:asylau brasterog,glyserolipidau,glyseroffosffolipidau,sphingolipidau,sacarolipidau apolycetidau (sy'n deillio o gyddwyso is-unedau cetoasyl); a lipidau sterol a prenol lipids (sy'n deillio o gyddwyso is-unedau isoprene).