![]() | |
Math | ynys lanwol ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 0 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Ynysoedd y Sianel ![]() |
Sir | Saint Peter's ![]() |
Gwlad | Beilïaeth Ynys y Garn ![]() |
Arwynebedd | 36 acre ![]() |
Gerllaw | Môr Udd ![]() |
Cyfesurynnau | 49.4611°N 2.6675°W ![]() |
Hyd | 0.4 cilometr ![]() |
![]() | |
MaeLihou yn ynys-llanw fechan wedi'i lleoli ychydig oddi ar arfordir gorllewinolYnys y Garn, yn yMôr Udd, rhwngPrydain aFfrainc. Mae Lihou yn ffurfio rhan o BlwyfSt Peter Port ynMeilïaeth Ynys y Garn,[1] ac yn awr yn eiddo i Senedd Guernsey (a elwir yn swyddogol fel yStates of Guernsey), er y cafwyd nifer o berchnogion yn y gorffennol.[2] Ers 2006, mae'r ynys wedi cael ei rheoli ar y cyd gan Adran yr Amgylchedd Guernsey ac Ymddiriedolaeth Elusennol Lihou. Yn y gorffennol roedd yr ynys yn cael ei defnyddio gan bobl leol ar gyfer casglugwymon i'w ddefnyddio felgwrtaith, ond heddiw mmae Lihou'n cael ei ddefnyddio'n bennaf ar gyfertwristiaeth, gan gynnwys teithiau ysgol. Mae Lihou hefyd yn ganolfan bwysig ar gyfercadwraeth, gan ffurfio rhan osafle Ramsar ar gyfer cadwraeth adar a phlanhigion prin, yn ogystal ag adfeilion hanesyddol priordy a ffermdy.