Mae rhan fawr o Libia'n gorwedd yn anialwch ySahara, gyda 1,800,000kilometr sgwar (700,000 milltir sgwar). Hi yw'r bedwaredd wlad fwyaf yn Affrica, a'r 17ed yn y byd. Mae 1.7 miliwn o drigolion y wlad yn byw ynTripoli, y brif ddinas, allan o boblogaeth o 6.4 miliwn.
Dros 10 mil o flynyddoedd yn ôl roedd 90% o'r wlad yn llawn o blanhigion a choed, gyda hinsawdd debyg iwledydd y Canoldir. Dengys tystiolaetharchaeolegol mai'rBerberiaid oedd yn byw yn y rhan yma o Affrica ynOes Newydd y Cerrig. Gallent dyfu cnydau a magu anifeiliaid.
Tua 500 CC roedd dylanwadFfeniciaid ar yr ardal yn gryf a gwelwyd sefydlu tair dinas yn yr ardal rydym heddiw'n ei alw'nTripolis ("tair dinas"). Erbyn 630 roeddyr Hen Roegiaid wedi sefydlu 630 BC, porthladd Cyrene ac yna pedair dinas arall yn ystod y blynyddoedd dilynol, a galwyd rhain y Pentapolis ("pum dinas").
Tyfodd Cyrene yn un o ganolfannau celfyddydol ac academig drwy gydol y byd Groegaidd, gyda'i hysgol meddygol a phensaerniol a'i chanolfannau dysg heb eu hail drwy'r byd.
Ymosododd yRhufeiniaid ar yr ardal o gwmpas Tripoli) yn106 CC ac erbyn64 CC roedd llengoeddIwl Cesar wedi cadarnhau a chryfhau'r dair ardal yn Rhanbarth Rufeinig, gan greu (o ran tiriogaeth) am y tro cyntaf y ffiniau presennol.
Llewyrchodd yr economi am rai canrifoedd o dan y Rhufeiniaid.
Baner 1951 - 1969, a ddefnyddiwyd cyn Gaddafi ac a ddefnyddiwyd gan yr ochr wrth-Gaddafi yn ystod protestiadau 2011 fel baner de-facto'r Weriniaeth newydd.
Yn Chwefror 2011 llifodd ton ar ôl ton o brotestiadau gwleidyddol drwy'rDwyrain Canol; ffynhonnell y protestiadau hyn oeddTiwnisia ac yna'rAifft yn Ionawr 2011 a gwelwyd ymgyrch gref drwy Lybia i gael gwared â Gaddafi a'i ddull unbeniaethol o reoli. Dyw hyn ddim yn syndod o gofio fod y ddwy wlad yma (Tiwnisa a'r Aifft) o fewn tafliad carreg i Lybia (ffiniau dwyreiniol a gorllewinol).
Erbyn 23ain o Chwefror roedd Gaddafi wedi colli rheolaeth o lawer iawn o drefi'r wlad ac yn ôl nifer o adroddiadau roedd dros fil o bobl wedi marw.