Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Libanus

Oddi ar Wicipedia
Am y pentref yng Nghymru, gwelerLibanus, Powys; am ddefnyddiau eraill, gwelerLibanus (gwahaniaethu).
Libanus
Gweriniaeth Libanus
الجمهوريّة اللبنانيّة
(ynganiad: al-Jumhūrīyah al-Lubnānīyah)
ArwyddairLibanus: Y Wefr o Fyw Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, un o wledydd môr y canoldir,gwlad Edit this on Wikidata
PrifddinasBeirut Edit this on Wikidata
Dinas fwyafBeirut Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,100,075 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd1516 (Ffurfiwyd)
22 Tachwedd 1943 (Annibyniaeth oddi wrthFfrainc
AnthemAnthem Genedlaethol Libanus Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethNawaf Salam Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2, UTC+03:00, EET, Amser Haf Dwyrain Ewrop, Asia/Beirut Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Arabeg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Dwyrain Canol,De-orllewin Asia,Asia Edit this on Wikidata
GwladLibanus Edit this on Wikidata
Arwynebedd10,452 ±1 km² Edit this on Wikidata
GerllawY Môr Canoldir Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaSyria, Israel Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau33.83333°N 35.76667°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholSenedd Libanus Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Arlywydd Libanus Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethJoseph Khalil Aoun Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog Libanus Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethNawaf Salam Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$23,132 million Edit this on Wikidata
Arianpunt Libanus Edit this on Wikidata
Canran y diwaith6 ±1 canran Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.714 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.706 Edit this on Wikidata

Gwlad fach fynyddig yn yDwyrain Canol ar lan ddwyreiniol yMôr Canoldir ywGweriniaeth Libanus neuLibanus (Arabeg: الجمهورية اللبنانية; Saesneg:Lebanon). Mae'n ffinio âSyria i'r gogledd a'r dwyrain a gydagIsrael i'r de. Maebaner Libanus yn cynnwys delweddcedrwydden Libanus yn wyrdd yn erbyn cefndir gwyn gyda stribed coch llorweddol ar y brig a'r gwaelod.

Cafodd y wlad ei henw oddi wrth gadwynMynydd Libanus, sy'n ymestyn o'r gogledd i'r de am tua 160 km i'r dwyrain o'r arfordir. Mae "Laban" yn golygu "gwyn" mewnAramaeg.

Prif ddinasoedd

[golygu |golygu cod]

Hanes Ddiweddar

[golygu |golygu cod]

Cyhoeddodd Libanus ei hanibyniaeth22 Tachwedd1943, gan gadw ffiniau Libanus Fawr (1920 -1926), wedi misoedd o brotestio. Ymddangosodd arweinwyr megisBéchara el-Khoury aRiad El Solh, a datblygodd y syniad o gyfamod cenedlaethol ble fyddai'r system wleidyddol yn gweithio'n drawsgymunedol, gyda'r Arlywydd yn dod o'r gymuned fwslemaidd a'r Prif Weinidog o'r gymuned gristnogol er enghraifft.

Cyfeirid at y wlad fel "Swistir y Dwyrain Canol" rhwng y 1950au a'r 1970au, oherwydd presenoldeb nifer o fanciau, wrth i economi Libanus ddatblygu'n gyflym ochr yn ochr ag isadeiladwaith a'r wladwriaeth, yng nghyfnodauCamille Chamoun aFouad Chéhab yn arlywyddion.

Ar yr un pryd, roedd Libanus hefyd yn wynebu tensiynau cymdeithasol, ynghyd â chanlyniadau creu gwladwriaethIsrael. Mudodd 120,000 o Balesteiniaid i'r wlad o1948 ymlaen. Tynnwyd Libanus fesul dipyn i'rGwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd, yn enwedig wedi diwedd y 1960au gydaChytundeb Cairo aMis Medi Du. Ystyrir i'r cytundeb gwthio'r wlad tua'rrhyfel cartref a barodd rhwng1975 a1990, gyda chymysgedd o ffactorau gwleidyddol, crefyddol a'rmaffia.

Meddianwyd Libanus gan Syria wediCytundeb Taëf ym1989, gan barhau felly nes2005. Ansefydlog bu hanes cynnar Ail Weriniaeth Libanus, gyda'rgwrthdaro yn 2007 a 2008, ac eto yn 2014-2016 cyn etholMichel Aoun yn arlywydd. Ochr yn ochr â hynny, mae'r wlad yn parhau i wynebu problemau sylweddol o'i hamgylch, gan gynnwysrhyfel gydag Israel yn 2006 yn ogystal âGwrthryfel Syria.

Diwylliant

[golygu |golygu cod]

Arabeg yw'r brif iaith gydaFfrangeg yn ail iaith swyddogol. Mae Libanus yn adnabyddus yn y Dwyrain Canol am ei chymdeithas gymysg, ond mae'n wlad a rwygir gan wahaniaethau crefyddol hefyd, gyda tua hanner y boblogaeth yn Gristnogion o sawl enwad a'r hanner arall yn Fwslimiaid.

Ar un adeg cyfeirid at Beirut fel "Paris yLefant" a nodweddid gan ei bywyd cosmopolitaidd, soffistigedig. Mae'n aros yn un o ganolfannau diwylliannol pwysicafy Byd Arabaidd, yn enwedig ym myd llenyddiaeth, cerddoriaeth a newyddiaduraeth.

Mae coginio a bwyd Libanus yn enwog hefyd.

Gweler hefyd

[golygu |golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
gw  sg  go
Baner y Cynghrair ArabaiddY Cynghrair Arabaidd
AelodauBaner y Cynghrair Arabaidd
Arsyllwyr
gw  sg  go
Gwledyddy Môr Canoldir
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Libanus&oldid=13324481"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp