Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Leo I

Oddi ar Wicipedia
Leo I
Ganwydc. 401 Edit this on Wikidata
Thrace Edit this on Wikidata
Bu farw19 Ionawr 474 Edit this on Wikidata
Caergystennin Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Fysantaidd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, Ymerawdwr Bysantaidd Edit this on Wikidata
PriodVerina Edit this on Wikidata
PlantAriadne, Leontia Porphyrogenita Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Leo Edit this on Wikidata

Ymerawdwr Bysantaidd o457 hyd474 oeddFlaviusValerius Leo neuLeo I (401 -18 Ionawr474), Ef oedd yr olaf o gyfres o ymerodron a osodwyd ar yr orsedd gan y cadfridogAlanaiddAspar.

Coronwyd Leo ar7 Chwefror 457, y tro cyntaf i'r ymerawdwr gael ei goroni ganBatriarch Caergystennin. Gwnaeth Leo gynghrair a'rIsawriaid, gan briodi ei ferch i'w harweinydd Tarasicodissa, a olynodd Leo fel yr ymerawdwrZeno yn ddiweddarach. Trwy'r cynghrair yma, gallodd ddod yn rhydd o reolaeth Aspar.

Bu'n ymladd llawer yn erbyn yGothiaid dwyreiniol a'rHyniaid. ApwyntioddAnthemius yn ymerawdwr yn y gorllewin yn467. Dechreuodd ymgyrch yn erbyn yFandaliaid yn468, ond fe'i gorchfygwyd oherwydd brad ei frawd-yng-nghyfraithBasiliscus.

MagwydTheodoric Fawr, arweinydd y Gothiaid, yn llys Leo yng Nghaergystennin.

Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Leo_I&oldid=10895955"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp