| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Dyddiad cynharaf | 1953 |
| Awdur | Eugène Ionesco |
| Gwlad | Ffrainc |
| Iaith | Ffrangeg |
| Genre | Theatr yr absẃrd |
| Dynodwyr | |
Drama lwyfan fer ganEugène Ionesco ywLe Nouveau Locataire neuY Tenant Newydd a gyfansoddwyd ym1953.[1] Cyfieithwyd y ddrama i'rGymraeg ganK. Lloyd-Jones ynghanol y1960au a'i chyhoeddi ganWasg Prifysgol Cymru ym1974 yn y gyfrolY Wers; Y Tenant Newydd fel rhan o'r gyfresDramâu'r Byd.[2]
| Cymeriadau Ionesco | Cymeriadau K. Lloyd-Jones | Cymeriadau |
|---|---|---|
| Le Locataire | Y Dyn (D) | |
| La Concierge | Ceidwad y Fflatiau (C) | gwraig |
| Les Déménageurs | Dau Symudwr dodrefn (S1 a S2) |
Mae'r ddelwedd ganolog yn gyffredin i lawer o ddramâu Ionesco: mae rhywbeth yn cronni ar y llwyfan ac yn llethu'r cymeriadau. Yn yr achos hwn, dodrefn ydyw. Y prif gymeriadau yw'r gŵr bonheddig, gofalwr, a dau symudwr. Mae'r gofalwr yn siarad wrth i'r gŵr bonheddig, y "tenant newydd", gyfarwyddo'r ddau symudwr sy'n dod â dodrefn i mewn trwy gydol y ddrama.
Fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf ym 1955 yn Lilla Teatern ynHelsinki, y Ffindir, dan gyfarwyddydVivica Bandler.[3]
Bu iGwmni Theatr Cymru lwyfannu'r ddrama Gymraeg ym 1968 ynghyd â dwy ddrama arall gan Ionesco :Merthyron Dyletswydd [cyf.Gareth Miles]a Pedwarawd [cyf. John Watkins] CyfarwyddwrWilbert Lloyd Roberts; 'llwyfannwr cynorthwyol'Meic Povey; cast:Gaynor Morgan Rees,Beryl Williams,John Ogwen,David Lyn,Ieuan Rhys Williams aHuw Tudor.