Lawrence Alloway | |
---|---|
Ganwyd | 17 Medi 1926 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw | 2 Ionawr 1990 ![]() Dinas Efrog Newydd ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America,Lloegr ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | beirniad celf, curadur, hanesydd celf ![]() |
Priod | Sylvia Sleigh ![]() |
Beirniad celf achuradur oSais a dreuliodd y rhan fwyaf o'i yrfa ynUnol Daleithiau America oeddLawrence Alloway (17 Medi1926 –2 Ionawr1990). Arbenigodd mewncelf fodern yr Unol Daleithiau yn ail hanner yr 20g, yn enwedigmynegiadaeth,celf haniaethol, achelf bop. Priodolir iddo fathu'r enwpop art.
Ganwyd ynWimbledon, Llundain, yn fab i werthwr llyfrau. Cafodd y rhan fwyaf o'i addysg yn y cartref oherwydd iddo ddioddeftwbercwlosis yn ei fachgendod.[1] Magodd Lawrence ddiddordeb mewndiwylliant poblogaidd, yn enwedigcomics affilmiaugwyddonias.[2] Astudioddhanes celf ymMhrifysgol Llundain, er na derbyniodd ei radd.[3] Priododd yr arlunydd o GymraesSylvia Sleigh yn 1954.
Gwasanaethodd yn swydd isgyfarwyddwr Sefydliad Celf Gyfoes Llundain (ICA) yn y cyfnod 1955–57. Roedd Alloway yn hoff o waithEduardo Paolozzi aWilliam Turnbull, ac ymunodd â'rIndependent Group yn 1955.[2] Wedi iddo adael yr ICA, cyhoeddwyd ysgrif ddylanwadol ganddo yn y cyfnodolynArchitectural Design yn Chwefror 1958, dan y teitl "The Arts and the Mass Media". Yn y traethawd hwn amlinellir cysyniadau sylfaenol Alloway ynglŷn â chelf, sy'n gwrthod y ddeuoliaethuchel gelf—kitsch a boblogeiddwyd ganClement Greenberg, gan hawlio bod "continwwm celf boblogaidd yn dilyn hynt o ddata i ffantasi".[4]
Ymwelodd Alloway â'r Unol Daleithiau yn 1958 gyda rhodd ganyr Adran Wladol i astudio celf Americanaidd.[2] Symudodd i'r wlad yn 1961 i ddarlithio am gyfnod byr yng Ngholeg Bennington,Vermont, cyn iddo gymryd swydd uwch-guradur yn amgueddfa'rGuggenheim,Dinas Efrog Newydd. Yno fe drefnodd arddangosfeydd o waith y Mynegiadwyr Haniaethol ac arlunwyrArt Informel, yn ogystal â chelf bop aMinimaliaeth.[5] Gadawodd y swydd yn 1966 yn sgil ffrae rhyngddo a chyfarwyddwr y Guggenheim, Thomas Messer, ynglŷn â detholiadau'r arddangosfa Americanaidd ar gyfer yVenice Biennale.[1]
Wrth i'r 1960au mynd rhagddi, pwysleisiodd Alloway yn fwyfwy ddiffiniad agored o gelf, a'r angen am y celfyddydau cain a diwylliant poblogaidd i gyflenwi ei gilydd. Yn ei feirniadaeth, rhagflaenaiôl-fodernwyr y 1980au drwy wfftio hierarchaethesthetig ac ymdrin â chelfyddydweithiau mewn cyd-destunau priodol. Ymddangosodd ei ysgrifau beirniadol yn aml ynThe Nation (1968–81) acArtforum (1971–76).[3] Cydsefydlodd y cylchgrawnArt Criticism gyda'r beirniadDonald Kuspit. Fe'i penodwyd yn athro hanes celf ym Mhrifysol Talaith Efrog Newydd, Stony Brook yn 1968, ac addysgodd yno nes 1981.[1] Cyhoeddodd sawl cyfrol o feirniadaeth ac ysgrifau, gan gynnwysTopics in American Art Since 1945 (1975) aNetwork: Art and the Complex Present (1984), a monograff ar waithRoy Lichtenstein yn 1983. Ysgrifennodd Alloway hefydfeirniadaeth ffilm ar gyfer y cylchgrawnBritish Movie, a chyhoeddodd y gyfrolViolent America: the Movies 1946–64 yn 1971.
Dioddefodd o anhwylder niwrolegol, a bu'n defnyddiocadair olwyn ers 1981. Bu farw yn ei gartref ymManhattan oataliad ar y galon yn 63 oed.[1]