Dinas a phorthladd ar arfordir gorllewinolFfrainc ywLa Rochelle (neuRosiel[1] gynt). Hi yw prifddinasdepartementCharente-Maritime. Gerllaw mae'rÎle de Ré, a gysylltir a'r ddinas gan bont a adeiladwyd yn 1988. Roedd y boblogaeth yn2004 yn 78,000.
Sefydlwyd La Rochelle yn ystod y10g, a daeth yn harbwr pwysog o'r12g. Yn1137, gwnaethGuillaume X, Dug Aquitaine y ddinas yn borthladd rhydd. Hyd y15g, La Rochelle oedd y porthladd mwyaf ar arfordir gorllewinol Ffrainc.
Yn ystod yRhyfel Can Mlynedd, ymladdwydBrwydr La Rochelle ar22 Mehefin1372. Gorchfygwyd llynges Seisnig gan lynges Ffrainc a Castille, gan ennill rheolaeth ar y môr i Ffrainc. Yn ddiweddarach, daeth La Rochelle yn ganolfan i'rHuguenotiaid o 1568 ymlaen. Gwarchaewyd arni yn 1572-1573 ac eto ym 1627-1628. Yn ystod yrAil Ryfel Byd, roedd gan yr Almaenwyr ganolfan llongau tanfor yma. La Rochelle oedd y ddinas olaf yn Ffrainc i'r rhyddhau o'u gafael, ar8 Mai1945.