La Marseillaise ("Cân Marseille") ywanthem genedlaetholFfrainc. Cyfansoddwyd hi ganRouget de Lisle ynStrasbourg fin nos y25ain o Ebrill, wedi i Ffrainc gyhoeddi rhyfel yn erbyn Ymerawdwr Awstria. Y teitl gwreiddiol oeddChant de guerre pour l'armée du Rhin ("Rhyfelgan i Fyddin Afon Rhein").
Cafodd y gân ei chanu am y tro cyntaf gan filwyrMarseille oedd wedi dod iBaris i gefnogi'rChwyldro Ffrengig, a rhoddwyd yr enwLa Marseillaise arni. CyhoeddwydLa Marseillaise yn anthem genedlaethol ar14 Gorffennaf,1795. Dan ymerodraethNapoleon ac ar ôl adfer y teulu brenhinol, gwaharddwyd y gân, ond wedi'r chwyldro yn1830 fe'i gwnaed yn anthem genedlaethol eto dan y Drydedd Weriniaeth.
Defnyddiwyd y dôn ar gyferYr Internationale pan gyfansoddwyd geiriau y gân honno gyntaf, ond yn ddiweddarch cafodd dôn arall.
Er bod gan y gân wreiddiol nifer o benillion, dim ond y pennill cyntaf a genir yn Ffrainc fel rheol: