Maeagweddau cymdeithasol yngNghymru tuag atgyfunrywioldeb,deurywioldeb athrawsrywedd yn weddol ryddfrydol, yn debyg i weddilly Deyrnas Unedig aGorllewin Ewrop. Er hyn, mae tystiolaeth yn dangos bod pobl yng Nghymru yn llai parod i dderbyn poblLHDT na phobl yn rhannau eraill o Brydain.
Darganfu arolwg yn 2006 gan y mudiadStonewall fod 25% o bobl LHD yng Nghymru wedi cael eu diswyddo oherwydd eu rhywioldeb – canran uwch o lawer na'r cyfartaledd trwy Brydain – er gwaethaf deddf gwrth-wahaniaethu a ddaeth i rym yn 2003.[1]
Yn ôl ymchwiliad ganBBC Cymru yn 2007 roedd y nifer odroseddau casineb yn erbyn cyfunrywiolion yng Nghymru ar gynnydd, gyda phedwar o bob pump o aelodau'rgymuned hoyw yn dioddef ymosodiadau geiriol tra bod un o bob tri yn dioddef ymosodiad treisgar; yn ôl amcangyfrif gany Swyddfa Gartref dim ond 10% o'r rhai sy'n dioddef ymosodiadau am eu bod yn hoyw sy'n riportio'r trosedd i'r heddlu.[2]
CynhelirGŵyl Mardi Gras yngNghaerdydd yn flynyddol (er ni fydd yn debygol o gael ei chynnal yn 2008) ers 1999, pan oedd 6000 o fynychwyr; yn 2007 cynyddodd nifer y mynychwyr i 40 000.[3] Ym Mehefin 2009, cynhaliwyd GŵylBalchder Abertawe yn ninasAbertawe am y tro cyntaf erioed. Mynychodd dros 3,000 o bobl yr ŵyl hon.