Kraków |
 |
| Math | dinas gyda grymoedd powiat, dinas fawr, dinas Hanseatig, cyrchfan i dwristiaid, former national capital, tref neu ddinas, man gyda statws tref  |
|---|
|
| Poblogaeth | 804,237  |
|---|
| Sefydlwyd | - Unknown (cyn 8 g)

|
|---|
| Pennaeth llywodraeth | Aleksander Miszalski  |
|---|
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2  |
|---|
| Gefeilldref/i | Solothurn, Frankfurt am Main, Vilnius, Bordeaux, Bratislava, Budapest, Caeredin, Fès, Fflorens, Bwrdeistref Göteborg, Innsbruck, Kyiv, Leipzig, Leuven, Lviv, Milan, Nürnberg, Pécs, Rochester, Tbilisi  |
|---|
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Pwyleg  |
|---|
| Daearyddiaeth |
|---|
| Rhan o'r canlynol | Lesser Poland Voivodeship, Grand Duchy of Cracow  |
|---|
| Sir | Lesser Poland Voivodeship  |
|---|
| Gwlad | Gwlad Pwyl |
|---|
| Arwynebedd | 327 ±1 km²  |
|---|
| Uwch y môr | 219 ±1 metr  |
|---|
| Gerllaw | Afon Vistula  |
|---|
| Yn ffinio gyda | Sir Kraków, Sir Wieliczka, Sir Proszowice, Gmina Zielonki, Gmina Michałowice, Lesser Poland Voivodeship, Gmina Kocmyrzów-Luborzyca, Gmina Koniusza, Gmina Igołomia-Wawrzeńczyce, Gmina Niepołomice, Gmina Wieliczka, Gmina Świątniki Górne, Gmina Mogilany, Gmina Skawina, Gmina Liszki, Gmina Zabierzów, Gmina Wielka Wieś  |
|---|
| Cyfesurynnau | 50.0614°N 19.9372°E  |
|---|
| Cod post | 30-001  |
|---|
| Gwleidyddiaeth |
|---|
| Corff deddfwriaethol | Kraków City Council  |
|---|
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Mayor of Kraków  |
|---|
| Pennaeth y Llywodraeth | Aleksander Miszalski  |
|---|
 |
| Sefydlwydwyd gan | Krakus  |
|---|
|
|
Ail ddinas fwyafGwlad Pwyl ac un o'i dinasoedd hynaf ywKraków neu yn GymraegCracof.[1] Fe'i lleolir ger AfonWisła ac mae'n dyddio o'r 7c. Yn draddodiadol, mae Kraków wedi bod yn un o ganolfannau bywyd diwylliannol, academaidd a chelfyddydol blaenaf Gwlad Pwyl ynghyd â bod yn ganolbwynt economaidd. Bu prifddinas Gwlad Pwyl rhwng 1038 a 1569; yGymanwlad Bwylaidd-Lithwanaidd rhwng 1569 a 1596;Dinas Rydd Kraków rhwng 1815 a 1846;Archddugiaeth Cracow rhwng 1846 a 1918; aFoifodiaeth Kraków rhwng y 14g hyd at 1990. Bellach, mae'n brifddinasFoifodiaeth Pwyl Fechan.
Mae'r ddinas wedi tyfu o fod yn anheddfaOes y Cerrig i fod yn ail ddinas bwysicaf Gwlad Pwyl. Dechreuoedd fel pentrefan ar benBryn Wawel a cheir adroddiadau iddi fod yn ganolfan fasnachu bwysigEwrop Slafonig erbyn 965. Sefydlwyd prifysgolion newydd a sefydliadau diwylliannol yn sgil dyfodiad yrAil Weriniaeth Bwylaidd yn 1918 a thrwy gydol yr 20g gan gadarnhau lle Kraków fel canolbwynt bywyd gwâr o bwysigrwydd gwladol. Erbyn heddiw, mae gan y ddinas boblogaeth o 760, 000 ac mae rhyw 8 miliwn o bobl yn byw o fewn radiws o 100 km i'r sgwâr canolog.
WediGoresgyniad Gwlad Pwyl ar gychwyn yrAil Ryfel Byd, daeth Kraków yn brifddinas yLlywodraeth Gyffredinol Almaenig. Ysytriedid y Pwyliaid a'r Iddewon yn is-ddynol ac yn is-raddol gan y gorchfygwyr a chaent eu herlid; bwriadwyd eu difa yn y pen draw. Symudwyd y boblogaeth Iddewig i ardal amgaerog o'r ddinas a elwid ynGhetto Kraków, ac ohoni y danfonasant hwy i wersylloedd crynhoi a gwesylloedd difa megisAuschwitz, a saif ar gyfyl Kraków.
Yn 1978 fe etholwydKarol Wojtyła,Archesgob Kraków, i'rBabaeth felPab Ioan Pawl II— y Pab Slafaidd cyntaf erioed a'r tro cyntaf i Bab o wlad arall heblaw am yr Eidal cael ei ethol am 455 blynedd. Yr un flwyddyn, cymeradwyoddUNESCO ySafleoedd Trefdadaeth y Byd cyntaf, gan gynnwys yn eu mysgHen Dref Kraków yn ei chyfanrwydd. Ystyrir Kraków heddiw yn ddinas o arwyddocâd rhyngwladol ac yn un o ddinasoedd harddaf Ewrop.