Krumpendorf am Wörthersee, Maria Wörth, Keutschach am See, Köttmannsdorf, Maria Rain, Ebenthal in Kärnten, Poggersdorf, Magdalensberg, Maria Saal, Sankt Veit an der Glan, Liebenfels, Moosburg, Klagenfurt-Land District, St. Veit an der Glan District
Klagenfurt am Wörthersee, (Slofeneg:Celovec) yw prifddinas talaithCarinthia yn neAwstria. Mae'r boblogaeth yn 90,100.
Saif Klagenfurt 446 metr uwch lefel y môr, ychydig i'r dwyrain o lynWörthersee ar lanafon Glan. Ceir prifysgol ac eglwys gadeiriol yma, ac mae'n ganolfanesgobaeth Gurk-Klagenfurt.
Ceir y cyfeiriad cyntaf atForum Chlagenvurth yn 1193 - 1199. Ail-sefydlwyd y dref yn 1246 gan y tywysogBernhard van Spanheim, a daeth yn ddinas yn 1252.
Meddianwyd y dref a'r cyffiniau am gyfnod yn 1919 gan luoeddSlofenaidd Teyrnas Serbia, Croatia a Slofenia (SHS,Iwgoslafia wedyn) o dan y Cadfridog Slofenaidd,Rudolf Maister. Bu'n rhaid iddo gytuno i ildio'r dref a chytuno i refferendwm ar ei dyfodol (uneai fel rhan o Awstria neu fel rhan o' SHS newydd). Pleidleisiodd y trigolion dros ymuno ag Awstria.