Kharkiv Trem ar Sgwâr Rhyddid yng nghanol y ddinas. |
 |
| Math | canolfan oblast, dinas yn Wcráin  |
|---|
|
| Poblogaeth | 1,421,125  |
|---|
| Sefydlwyd | - 1654

|
|---|
| Pennaeth llywodraeth | Ihor Terekhov  |
|---|
| Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00  |
|---|
| Gefeilldref/i | Brno, Cetinje, Cincinnati, Daugavpils, Gaziantep, Cawnas, Kutaisi, Nürnberg, Poznań, Rishon LeZion, Tbilisi, Maribor, Lublin, Tirana, Daejeon, Debrecen, Cetinje  |
|---|
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wcreineg  |
|---|
| Daearyddiaeth |
|---|
| Sir | Raion Kharkiv  |
|---|
| Gwlad | Wcráin |
|---|
| Arwynebedd | 350 ±1 km²  |
|---|
| Uwch y môr | 152 ±1 metr  |
|---|
| Gerllaw | Afon Kharkiv  |
|---|
| Cyfesurynnau | 49.9925°N 36.2311°E  |
|---|
| Cod post | 61000–61499  |
|---|
| Gwleidyddiaeth |
|---|
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Kharkiv  |
|---|
| Pennaeth y Llywodraeth | Ihor Terekhov  |
|---|
 |
|
|
Dinas ynWcráin a chanolfan weinyddolOblast Kharkiv ywKharkiv (Wcreineg:Ха́рків,Rwseg:ХарькoвKharkov; trawslythrennu:Charcif).[1] Dyma'r ddinas fwyaf ynNwyrain Wcráin a'r ddinas ail fwyaf yn yr holl wlad, a'r brif ddinas yn rhanbarth hanesyddolSlobozhanshchyna. Saif ar gymer afonyddUda,Lopan, aKharkiv.
Anheddid yr ardal o amgylch safle Kharkiv ers yr ail fileniwm CC, a chanfuwyd tystiolaeth o ddiwylliannauOes yr Efydd, ySgythiaid, a'rSarmatiaid. Daeth yCumaniaid i reoli'rstepdiroedd yn y 12g, ac yn ddiweddarach yTatariaid. Yn nechrau'r 17g, gorchfygwyd yr ardal ganTsaraeth Rwsia, a chodwyd garsiynau ac amddiffynfeydd ar hyd y gororau i rwystro goresgyniadau'r Tatariaid. Wrth i'rGymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd ehangu tua'r dwyrain, ymsefydlwyd Cosaciaid a gwerinwyr yn y cyffindiroedd er mwyn osgoi'r gwaith llafur a orfodwyd arnynt. Adeiladwyd tref gaerog ar y safle ganGosaciaid Zaporizhzhia ym 1654–55. Yn ôl y chwedl leol, sefydlwyd y gaer gan Gosac o'r enw Kharko, ond yn wir mae'n debyg iddi gael ei henwi ar ôl Afon Kharkiv. Yn ystod cyfnod yr Hetmanaeth (Llu Zaporizhzhia), dan dra-arglwyddiaeth y Rwsiaid, o ganol yr 17g hyd at 1765, hon oedd canolfan Catrawd Kharkiv, un o israniadau gweinyddol Slobozhanshchyna ac un o brif unedau milwrol y Cosaciaid. Ymgartrefodd nifer o filwyr, marsiandwyr, a chrefftwyr Rwsiaidd yn y gaer, ac ar ei chyrion codwyd nifer o bentrefi di-dreth (slobody) gan y Cosaciaid, a fuont yn amaethu, magu anifeiliaid, ac yn cyfnewid nwyddau er ennill tamaid.
Byddai Kharkiv yn gadarnle bwysig iYmerodraeth Rwsia hyd at ganol y 18g, pryd gwthiwyd ffiniau'r ymerodraeth tua'r de. Wedi diwedd yr Hetmanaeth, datblygodd y ddinas yn ganolfan fasnachol a diwylliannol yn hytrach na safle filwrol. Cynhaliwydffair fasnach flynyddol a atynnai farsiandwyr o orllewin Wcráin, Rwsia, a gwledydd eraill yn Nwyrain Ewrop. Sefydlwyd Colegiwm Kharkiv, un o ysgolion crefyddol pwysicaf yr ymerodraeth, ym 1734 a Phrifysgol Kharkiv ym 1805.[2] Adeiladwyd rheilffordd o Kharkiv i faes gloBasn Donets ym 1869, a thyfai diwydiannau'r ddinas, yn enwedigpeirianneg, yn y cyfnod hwn.
Yn sgilChwyldro Rwsia ym 1917, gwnaed Kharkiv yn brifddinasGweriniaeth Sosialaidd Sofietaidd Wcráin cyn iddi ildio'r safle hwnnw iKyiv ym 1934.[3] Yn ystodyr Ail Ryfel Byd, cipiwyd Kharkiv gan luoeddyr Almaen Natsïaidd yn Hydref 1941, a methiant a fu'r ymdrech gany Fyddin Goch i ailgipio'r ddinas ym Mai 1942. Llwyddodd y Sofietiaid i yrru'r Almaenwyr allan yn sgil Cyrch Zvezda yn Chwefror 1943, ond ildiodd y ddinas unwaith eto i'r gelyn mewn brwydr arall ym Mawrth. O'r diwedd, daeth Kharkiv eto dan reolaeth yr Undeb Sofietaidd yn Awst 1943. Bu farw niferoedd mawr o filwyr a thrigolion yn ystod y brwydrau hyn, a difrodwyd y mwyafrif o adeiladau'r ddinas.
Ar un pryd yr oedd Kharkiv yn ddinas fwy poblog na Kyiv, ond am y gan mlynedd ddiwethaf mae nifer y trigolion wedi gostwng yn raddol. Gostyngodd y boblogaeth o 1,521,000 ym 1995[4] i 1,471,000 yn 2001,[3] 1, 447,000 yn 2011,[2] ac 1,434,000 yn 2021.[3] Mae'n debyg y byddai'r boblogaeth yn lleihau ymhellach o ganlyniad i gyrch Rwsia ar Kharkiv yn 2022, un o frwydrau mwyaf y rhyfel rhwng Rwsia ac Wcráin.