Lleolir talaithKentucky yn nwyrain canolbarth yrUnol Daleithiau; mae'n gorwedd i'r dwyrain oAfon Mississippi. Mae'n cynnwysMynyddoedd Appalachia yn y dwyrain, ardal yBluegrass yn y canol, a gwastadedd yn y gorllewin. Mae afonyddAfon Tennessee acOhio yn llifo trwy'r de-orllewin. Mae'n dalaith wledig iawn gyda thradodiadau gwerin unigryw. ArchwilioddDaniel Boone yr ardal yn1769 a daeth nifer o ymsefydlwyr ar ôl hynny. Daeth yn dalaith yn1792.Frankfort yw'r brifddinas.
Llysenw Kentucky yw "Talaith y Glaswellt Glas" (Saesneg:the Bluegrass State) sydd yn cyfeirio at y gweunwellt (bluegrass) sydd yn enwog am fagu ceffylau.[1]
Ceir 120 o siroedd yn Indiana ac yn eu plith mae Swydd Owen (County Owen), a alwyd ar ôl Abraham Owen (1769-1811), milwr. Hanodd ei hen, hen, hen daid a nain Humphrey a Catherine Owen oNannau gerDolgellau.[2]