Ganwyd Ross ynHollywood,California, ar Ionawr 29, 1940, pan oedd ei thad, Dudley Ross, yn yLlynges. Roedd hefyd wedi gweithio i'rAssociated Press. Yn ddiweddarach ymgartrefodd ei theulu yn Walnut Creek, California, i'r dwyrain oSan Francisco, a graddiodd o Ysgol Uwchradd Las Lomas ym 1957.[1]
Roedd Ross yn marchog brwd yn ei hieuenctid ac roedd yn ffrindiau â Casey Tibbs, marchog rodeo.[2]
Astudiodd yng Ngholeg Iau Santa Rosa am flwyddyn (1957–1958) lle cafodd ei chyflwyno i actio trwy gynhyrchiad oThe King and I. Gadawodd y cwrs a symud i San Francisco i astudio actio. Ymunodd â Gweithdy'r Actorion a bu gyda nhw am dair blynedd (1959-1962) Am un rôl ynThe Balcony gan Jean Genet, ymddangosodd hi'n noethlymun ar y llwyfan. Ym 1964, cafodd ei castio gan John Houseman fel Cordelia mewn cynhyrchiad oKing Lear.[3][4]
Aeth Ross ymlaen i gael gyrfa hynod lwyddiannus mewn Ffilm a theledu. Fe ymddangosodd mewn sawl sioe deledu yn y 1960au gan gwneud ei ymddangosiad ffilm cyntaf ynShenandoah ym 1965. Llofnododd gontract gydaUniversal ond gwnaeth ffilmiau gyda'r MGM hefyd.[5]
Yn 1967 enillodd enwogrwydd yn chwarae rhan Elaine Robinson yn y ffilm boblogaiddThe Graduate, ochr yn ochr âDustin Hoffman. Enillodd hiGolden Globe ac enwebiad amOscar am y rôl yma. Enillodd Golden Globe hefyd am eu rol ynVoyage of the Damned ym 1978. Yn ddiweddarach yn ei gyrfa ymddangosodd ynDonnie Darko.[6],Don't Let Go, a fel cyn-wraig Sam Elliott ynThe Hero yn 2017
Mae Ross wedi sefydlu ei hun fel awdur, gan gyhoeddi sawl llyfr plant.