Mynydd sanctaidd 6,638 m (21,778 troedfedd) o uchder yng nghadwyn mynyddoedd Gangdisê ynHimalayaTibet ywKailash (Kailāśā), y cyfeirir ato hefyd felMynydd Kailash (Devanagari: कैलाश (पर्वत)Kailāśā (Parvata);Tibeteg:Gangs Rin-po-che). Wrth odre'r mynydd gorwedd tarddleoedd rhai o'r afonydd mwyaf ynAsia, sefAfon Indus,Afon Sutlej (un o brif lednentydd yr Indus),Afon Brahmaputra (Tsang-po), acAfon Karnali (un o lednentydd mawrAfon Ganga). Mae'n fynydd sanctaidd i ddilynwyr pedair crefydd, sefHindŵaeth,Bwdhaeth,Jainiaeth a'r ffyddBön. Mae Hindŵaid yn credu mai Kailash yw trigfeydd yr ArglwyddShiva a'i gymarParvati. Gorwedd y mynydd ger llynnoeddManasarowar aRakshastal yn Nhibet.
Does neb wedi ceisio dringo Kailash allan o barch ato fel mynydd sanctaidd. Erbyn heddiw, Kailash yw'r mynydd uchaf yn y byd sydd heb ei ddringo.
Ystyr y gairSansgritKailāśā yw "crisial". Mae'r enwTibeteg am y mynydd,Gangs Rin-po-che, yn golygu "gem werthfawr yr eiraoedd". Enw arall arno yw Tisé (Tibeteg: ཏི་སེ་). Mae'r Jainiaid yn ei law ynAshtapada. Mae enwau eraill arno yn Hindŵaeth yn cynnwysRajatadri ("Mynydd Arian") aHemakuta ("Y Copa Euraidd").
Mae Kailash yn gyrchfanpererindod ers canrifoedd lawer. Fe'i hystyrir yn drigfodShiva aParvati (Duwies y Mynyddoedd) ac mae rhai yn credu ei fod yn ffurf ddaearol o'rshivalinga ei hun. I'r Tibetiaid mae'n drigfod daearol yBwdhaDemchog ac fe'i cysylltir â thraddodiadau amGuru Rinpoche aMilarepa. Hyd at y 1950au, pan oresgynnwyd Tibet ganWeriniaeth Pobl Tsieina, arferai pererinion oIndia groesi'r Himalaya i Dibet i gylchu'r mynydd sanctaidd. Ers 1980 mae awdurdodau Tsieina wedi caniatáu i nifer fechan o bererinion wneud y daith, gan gychwyn o India neuLhasa, ond dan arolygiaeth fanwl.