MaeKaaps-Afrikaans hefyd,Kaaps,Bo-Kaaps ("Kaaps y Bae") hefydKaapse Taal ("iaith y Penrhyn"); Saesneg:Cape Afrikaans yn dafodiaith o'r iaithAffricaneg (Afrikaans) sy'n nodweddiadol o dalaith Wes-Kaaps ynNe Affrica. Mae'r dafodiaith wedi eu dylanwadau'n drymach gan Malaieg nag Afrikaans safonol a cheir rhai ffurfiau sy'n agosach atIseldireg.
Siaredir y dafodiaith gan mwyaf ar yr arfordir ac yn y ninasKaapstad. Dywedir ei bod yn hawdd i siaradwyrIseldireg ei deall a hynny gan fod Afrikaans yn ddisgynnydd-iaith i'r Iseldireg a cafwyd cyfnod idiglossia rhwng 1652 ac 1930 (pan gwnaethpwyd Affricaneg yn iaith swyddogol yn lle'r Iseldireg).
Siaredir Kaapse-Afrikaans gan mwyaf gan bobl 'lliw' (Kaapse Kleurling y Penrhyn a ceir drafodaeth a yw hi'n iaith sathredig o Affricaneg neu dafodiaith ar wahân. Bu llenorion ac academyddion o'r gymuned lliw, megisAdam Small aNeville Alexander yn pledio achos y dafodiaith.
Yn ogystal â'r drafodaeth a yw'r Kaapse-Afrikaans yn dafodiaith o Afrikaans ceir hefyd elfen gref o 'newid côd ('code switching') ieithyddol rhwng yr Afrikaans a'r Saesneg.
Mae Kaapse Afrikaans yn cadw rhai nodweddion sy'n debycach i'r Iseldireg na'r Afrikaans gyfoes.[1]
Mae gan Kaapse Afrikaans rai nodweddion eraill na ganfyddir yn arferol yn Affricaneg cyffredin:
Ystyrir Kaapse Afrikaans, neu Kaaps, fel fersiwn llai cywir o Afrikaans gan rai gan dynnu i mewn dadleuon neu deimladau am ddosbarth cymdeithasol a hil.[4][5] Gellir dadlau fod hyder newydd yn y defnydd o'r dafodiaith.[6]
|dead-url=
ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)