Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Juan Manuel Fangio

Oddi ar Wicipedia
Juan Manuel Fangio
Ganwyd24 Mehefin 1911 Edit this on Wikidata
Balcarce Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 1995 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethentrepreneur, gyrrwr Fformiwla Un, gyrrwr ceir cyflym Edit this on Wikidata
PerthnasauJuan Manuel Fangio II Edit this on Wikidata
Gwobr/audiamond Konex award Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auAlfa Romeo Racing, Mercedes F1 Team, Maserati, Scuderia Ferrari Edit this on Wikidata

Gyrrwr rasioFformiwla Un o'rAriannin oeddJuan Manuel Fangio (24 Mehefin191117 Gorffennaf1995). Cystadlodd yn Fformiwla Un o 1950 i 1958 gan enillbencampwriaeth y byd bum gwaith. Ef oedd gyrrwr mwyaf llwyddiannus ei oes. Ar adeg ei ymddeoliad, daliodd y record am y mwyafrif o fuddugoliaethau (24), polion cychwyn (29), lapiau cyflymaf (23), a podia (35), a hynny ar ôl cystadlu mewn dim ond 51 o rasys. Ef yw'r unig yrrwr yn hanes F1 i ennill teitlau gyda phedwar tîm gwahanol: Alfa Romeo (1951), Maserati (1954 a 1957), Mercedes-Benz (1954 a 1955), a Ferrari (1956).

Herwgipio

[golygu |golygu cod]

Yn 1957 sefydloddFulgencio Batista, arlywyddCiwba, Grand Prix Ciwba ynLa Habana. Enillodd Fangio ras 1957, a dychwelodd ar gyfer ras 1958. Ar 23 Chwefror 1958, herwgipiwyd Fangio o'i westy gan ddau o ddilynwyrFidel Castro ymMovimiento 26 de julio. Roedd yr herwgipwyr yn gobeithio gorfodi canslo'r ras mewn ymgais i godi cywilydd ar lywodraeth Batista. Fodd bynnag gorchmynnodd Batista i'r ras gael ei chynnal tra bod tîm elitaidd o heddlu yn hela am yr herwgipwyr. Methodd ymchwil yr heddlu. Trosglwyddwyd Fangio gan y herwgipwyr i lysgenhadaeth yr Ariannin yn fuan ar ôl i'r ras ddod i ben. Fel canlyniad o'r digwyddiadau hyn daeth llawer o Giwbaiaid yn argyhoeddedig bod Batista yn colli ei afael ar bŵer. Collodd Batista rym ar ôlChwyldro Ciwba yn Ionawr 1959, a chafodd Grand Prix Ciwba 1959 ei ganslo. Cafodd herwgipio Fangio ei dramateiddio mewn ffilm o 1999,Operación Fangio.

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • Gerald Donaldson,Fangio: The Life Behind the Legend (Llundain: Virgin, 2009)
  • Karl Ludvigsen,Juan Manuel Fangio: Motor Racing's Grand Master (Sparkford: Haynes, 1999)
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Juan_Manuel_Fangio&oldid=13424371"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp