| Joseph Addison |
|---|
 |
| Ganwyd | 1 Mai 1672  Milston  |
|---|
| Bu farw | 17 Mehefin 1719  Kensington  |
|---|
| Dinasyddiaeth | Lloegr |
|---|
| Alma mater | |
|---|
| Galwedigaeth | gwleidydd,ysgrifennwr,dramodydd,bardd, newyddiadurwr, golygydd, libretydd, gohebydd, awdur ysgrifau  |
|---|
| Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Iwerddon, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, Aelod o Ail Senedd Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 4edd Senedd Prydain Fawr, Aelod o 5ed Senedd Prydain Fawr  |
|---|
| Cyflogwr | |
|---|
| Adnabyddus am | Cato, a Tragedy, Life of Milton (Italian translation by Paolo Rolli)  |
|---|
| Plaid Wleidyddol | Chwigiaid  |
|---|
| Tad | Lancelot Addison  |
|---|
| Mam | Jane Gulston  |
|---|
| Priod | Charlotte Addison  |
|---|
| llofnod |
|---|
 |
Ysgrifwr,bardd, adramodydd yn yr iaithSaesneg a gwleidydd oLoegr oeddJoseph Addison (1 Mai1672 –17 Mehefin1719). Drwy gyd-sefydlu a golygu cylchgronauThe Tatler aThe Spectator gydaRichard Steele, cyfrannai yn sylfaenol atddiwylliant llenyddol Lloegr yn y 18g. Fe'i disgrifir ynY Gwyddoniadur Cymreig fel "un o brif addurniadau llenyddiaeth Saesneg".[1]
Ganed ym mheriglordy Milston,Wiltshire, yn fab i'r Dr Lancelot Addison, periglor y plwyf a fyddai wedi hynny yn ddeonCaerlwytgoed,Swydd Stafford. Ar ôl derbyn elfennau ei addysg gartref, yngNghaersallog, a Chaerlwytgoed, symudwyd ef iYsgol Charterhouse ynSmithfield,Llundain, a oedd ar y pryd hwnnw o dan arolygiaeth Dr Ellis. Yno daeth i gydnabyddiaeth a ffurfiodd gyfeillgarwch gyntaf â Richard Steele. Ym 1687, aeth iGoleg y Frenhines, Rhydychen, a dwy flynedd yn ddiweddarach etholwyd ef yn ysgolor yngNgholeg Magdalen. Yn y blynyddoedd dyfodol, enillodd gymeriad uchel oherwydd ei allu i gyfansoddi barddoniaethLadin. Ym 1693 y gwnaeth ei gais cyntaf i farddoni yn yr iaith Saesneg. Cyfansoddodd gân fechan i annerchJohn Dryden, y Bardd Llawryfog, a edmygid yn fawr gan y beirniaid gorau. Ymddengys ei fod, ar un adeg, yn barod i ddilyn esiampl ei dad, a chymryd ei ordeinio yn weinidog ynEglwys Loegr, ond disgynnodd rhywbeth i beri iddo roddi heibio y penderfyniad hwn. Drwy offerynoliaeth yr Arglwydd Somers, penderfynodd y llywodraeth roddi iddo flwydd-dâl o £300, a'i galluogodd, tua diwedd 1699, i foddio ei dueddfryd i fynd ar daith drwy'r Eidal. Ar ei ddychweliad yn ôl, ym 1703, cyhoeddodd hanes ei deithiau. Ar farwolaethWiliam III, daeth y Torïaid i awdurdod, ac ataliwyd ei flwydd-dâl a ni dderbyniodd ond am un flwyddyn, a bu Addison am beth amser megis yn segura. Ond ym 1704, dechreuodd cyfnod newydd ar ei fywyd, a barhaodd hyd 1710, pan yr oedd yn 38 oed. Dyma gyfnod cyntaf ei yrfa swyddol, ac er ei fod yn hollol ddiffrwyth ym mron o ran cynhyrchion llenyddol, yr oedd ddigon uwchlaw angen. O hynny allan roedd ei safle fel dyn cyhoeddus wedi ei sefydlu.
Cymeradwywyd ef i sylw yr Arglwydd Godolphin fel un cymwys i ddathlu buddugoliaethDug Marlborough yn Blenheim. O ganlyniad i hynny, cyfansoddodd y bryddest a elwir "The Campaign", a dderbyniwyd gyda chymeradwyaeth mawr ac a arweiniodd i'w benodiad yn un o ddirprwywyr yr apêl perthynol i'r cyllid. Ym 1706, gwnaed ef yn un o ysgrifenyddion y wladwriaeth, a thua'r pryd hwn y cyfansoddodd ei opera a elwirRosamond. Etholwyd ef yn aelod oSenedd Prydain Fawr ym 1708, ac eisteddai ynNhŷ'r Cyffredin yn gyntaf drosLostwithiel ac wedi hynny drosMalmesbury, ac etholwyd ef chwe gwaith i'w chynrychioli, sef o 1710 hyd ei farwolaeth. Methiant ydoedd ei fywyd seneddol yn ddiau. Nid ydyw yn hysbys pa ran a gymerwyd ganddo ym manylion y gweithrediadau a ddygid ymlaen, ond yr oedd bob amser yn aelod distaw, oddi eithr ei fod wedi gwneud ymgais i siarad unwaith, pryd y gorfodwyd ef i eistedd i lawr mewn dryswch. Mynegir amdano hefyd ei fod mor fanwl ynghylch cyfansoddiad ei frawddegau, fel y byddai hynny yn ei ddrysu weithiau pan yn paratoi bryslythyr pwysig yn frysiog, ac iddo lawer gwaith orfod rhoddi y gorchwyl i un o'i ysgrifenyddion, er mwyn ei gael mewn pryd.
Ym 1709, aeth drosodd iIwerddon yn ysgrifennydd i'r Ardalydd Wharton, yr arglwydd raglaw, a phenododd y frenhines ef yn geidwad y cofnodion. Eisteddai hefyd, ynSenedd Iwerddon, yn aelod dros FwrdeistrefCavan o 1709 i 1713. Mae'r saith mlynedd hyn o'i fywyd swyddol ym mron yn wagnod mewn ystyr lenyddol yn ei hanes, nes y deuir yn agos i'w terfyn. Yn ystod misoedd diweddaf ei dymor swyddol, pa fodd bynnag, ysgrifennodd lawer iThe Tatler, a ddygwyd allan gan ei hen gyfaill Richard Steele. Aeth y Chwigiaid allan o awdurdod, a bu'r Torïaid yn llywodraethu hyd ddiwedd teyrnasiad Ann ym 1714, felly rhyddhawyd Addison o hualau swydd, a chafodd gyflwyno pedair blynedd gorau ei oes i gyfoethogi llenyddiaeth y Saeson, ac hefyd i ychwanegu yn fawr at ei enwogrwydd ei hun. Treuliwyd y pedair blynedd hyn yn bennaf ganddo i gyfansoddi ei draethodau cyfnodol digyffelyb. Rhoes y gorau iThe Tatler yn nechrau 1711, a dilynwyd ef ganThe Spectator, a ddaeth allan yn gyntaf ar 1 Mawrth 1711. Parhaodd i ddyfod allan bob dydd ond y Sul hyd 6 Rhagfyr 1712. Erbyn hynny, roedd y 555 o rifynnau a gasglwyd yn y saith gyfrol gyntaf wedi eu cwblhau, a chydlafuriodd Addison â Steele ar hyd y ddwy flynedd hynny. I Addison, yn ddiamau, yr oeddThe Spectator yn ddyledus, i raddau mawr, am brif ragoriaethau. Byddai ei bapurau yn cael eu llawnodi ag un o'r llythrennau a ffurfiai enw yr awen, sef Clio. Mor fawr oedd poblogrwyddThe Spectator fel y mynegir fod tuag ugain mil o gopïau ohono, weithiau, yn cael eu gwerthu mewn diwrnod. Pan y rhoddwyd ef i fyny, cyhoeddodd Steele yGuardian ym Mawrth 1713, ond darfu gyda'r rhifyn 175. Cyfansoddwyd 53 o draethodau'rGuardian gan Addison, ond nid ydynt, ar y cyfan, mor ragorol a'i draethodau ynThe Spectator. Ym misoedd diwethaf 1714 ymddangosodd yr wythfed, a'r olaf, o gyfrolauThe Spectator. O'r traethodau sydd yn y gyfrol hon, mae 24 o law Addison, ac yn eu mysg amryw o'r rhai rhagoraf o'i holl ysgrifeniadau. Ym 1713 ymddangosodd ei dreis-gân "Cato". Roedd ei llwyddiant yn anarferol, a chafodd ei darllen gydag awyddfryd a phleser drwy y wlad yn gyffredinol.
Daeth gyrfa lenyddol Addison ym mron i ben yn fuan ar ôl marwolaeth y Frenhines Ann, yn Awst 1714, gyda ei fod wedi cyrraedd 42 oed, ond bu fyw bum mlynedd wedi hynny. Ym 1715, dechreuodd gyhoeddi eiFreeholder, a oedd yn fath oSpectator gwleidyddol, ac a ysgrifennwyd yn gwbl ganddo'i hun. Cyhoeddwyd 55 rhifyn yn unig ohono. Yn y flwyddyn ddilynol, priododd Addison ag Iarlles waddolog Warwick, ond y mae lle i gasglu na chwanegodd hyn nemawr at ei ddedwyddwch. Ym 1717, penodwyd ef yn un o brif ysgrifenyddion y wladwriaeth, ond mae'n ymddangos fod y gwaith trwm a ddisgynodd arno mwn cysylltiad â'r swydd, ynghyd â'r caethder a'r diffyg anadl yr oedd yn ddarostyngedig iddynt o'r blaen, wedi bod yn foddion i wanhau ei iechyd, ac i brysuro dydd ei ymddatodiad. Gan hynny, ymhen 11 mis, fe ymddiswyddodd, a chaniatawyd iddo flwydd-dâl o £1,500. Defnyddiodd ei amser yn awr i gyfansoddi ei draethawd ar "The Evidences of the Christian Religion", ond ni bu fyw i'w gwblhau. Bu farw o ddiffyg anadl a'r dyfrglwyf yn Holland House,Kensington, yn 47 oed, a fe'i claddwyd ynAbaty Westminster, yng Nghornel y Beirdd.
Ystyrid Addison ar un adeg yn fardd Saesneg mawr, ac yn ddiweddarach yn bwysig am ei bryddestau Lladin. Bellach, mae ei enwogrwydd yn gorffwys yn bennaf ar ei draethodau ynThe Spectator a chyfnodolion eraill. Caiff ei arddull ei ystyried yn gynllun o goethder a chywirdeb. MeddaiSamuel Johnson, "Pwy bynnag sydd yn ewyllysio ymberffeithio mewn arddull Saesneg, gynefin ond nid anghoeth, brydferth ond nid rhodresgar, rhodded ei ddyddiau a'i nosweithiau i astudio cyfrolau Addison". Mewn gwirionedd, nid oes un o'r clasurwyr Saesneg a werthfawrogir yn fwy ac a ganmolir yn uwch nag efe. Ysgrifennwyd bywgraffiad ohono ganLucy Aikin ym 1843, a chyhoeddwyd casgliad o'i holl weithiau gan Baskerville ynBirmingham ym 1761. CyhoeddwydThe Spectator o'r newydd ym 1871 gyda nodiadau gan yr AthroHenry Morley.