John Rhŷs | |
---|---|
John Rhŷs, tua 1890 | |
Ganwyd | 21 Mehefin 1840 ![]() Ponterwyd ![]() |
Bu farw | 17 Rhagfyr 1915 ![]() Coleg yr Iesu, Rhydychen ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd,llenor, ieithegydd ![]() |
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Athro mewn Celteg yng Ngholeg yr Iesu ![]() |
Cyflogwr | |
Priod | Elizabeth Rhŷs ![]() |
Plant | Myfanwy Rhŷs, Olwen Rhys ![]() |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig, Marchog Faglor, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Medal y Cymmrodorion ![]() |
YsgolhaigCymraeg aCheltaidd oeddJohn Rhŷs (ei orgraff arferol ei hun) neuJohn Rhys (21 Mehefin1840 -17 Rhagfyr1915), a aned gerPonterwyd,Ceredigion. Roedd yn un o'r ysgolheigion Celtaidd a golygyddion testunauCymraeg Canol gorau ei ddydd.
Graddiodd Rhŷs ymMhrifysgol Rhydychen gydag anrhydedd yn yClasuron yn1869. Ar ôl treulio cyfnod o astudio tramor a gweithio fel arolygydd ysgol yn yr henSir y Fflint fe'i penodwyd yn AthroCelteg cyntaf ei hen brifysgol yn1877. Yn1895 daeth yn brifathroColeg Iesu yno. Chwaraeodd ran bwysig ym mywyd Cymreig y brifysgol gan gynnwys bod yn llywydd cyntafCymdeithas Dafydd ap Gwilym (1886).
Daeth i adnabod SyrJohn Morris-Jones yn Rhydychen a gweithiasant gyda'i gilydd ar olygiad oLyfr yr Ancr. Roedd yn ieithydd penigamp; ei gyfrolLectures on Welsh Philology (1877) oedd y gwaith cyntaf i ddefnyddio dulliau newyddieithyddiaeth gymharol i astudio hanes yr iaith Gymraeg. Gweithiodd ar y cyd âJohn Gwenogvryn Evans i olygu cyfres bwysig o destunauCymraeg Canol, gan gynnwysLlyfr Coch Hergest aLlyfr Llandaf.
Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar hanes traddodiadol,llên gwerin amytholeg Geltaidd yn ogystal, gan gynnwys y cyfrolau pwysigCeltic Britain (1882) aCeltic Folkore, Welsh and Manx (1901). Er gwaethaf eu gwendidau - beiau'r oes yn bennaf - mae'r cyfrolau hyn yn gerrig milltir pwysig yn hanes ysgolheictod Celtaidd.
Gyda John Morris-Jones:
Gyda J. Gwenogvryn Evans: