Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

John Gwenogfryn Evans

Oddi ar Wicipedia
John Gwenogfryn Evans
Ganwyd20 Mawrth 1852 Edit this on Wikidata
Llanybydder Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mawrth 1930 Edit this on Wikidata
Llanbedrog Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethllenor,gweinidog yr Efengyl,paleograffydd Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlyfrgell Genedlaethol Cymru,William Thomas Edit this on Wikidata
PlantEmrys Hunter Evans Edit this on Wikidata

Paleograffydd a golygwr henlawysgrifau Cymreig oeddJohn Gwenogvryn Evans (20 Mawrth185225 Mawrth1930).

Cafodd ei eni ynLlanybydder,Sir Gaerfyrddin. Un o'i athrawon oeddWilliam Thomas (Gwilym Marles). Astudiodd ddiwinyddiaeh a daeth yn weinidog i'rUndodiaid ond oherwydd afiechyd rhoddodd y gorau i'r weinidogaeth ym 1880. Roedd ganddo ddiddordeb dwfn mewn hen lawysgrifau Cymreig, gan sefydlu ei wasg ei hun ymMhwllheli er mwyn eu cyhoeddi.

Roedd yn gyfaill ac yn wrandawr ar ddarlithoedd SyrJohn Rhys tra'n byw ynRhydychen, rhwng 1880 a 1900, a ganddo fo gafodd ei gariad at hen lawysgrifau.

Bu John Gwenogfryn Evans yn ymgyrchu dros gael llyfrgell ddiogel i Gymru. Roedd llyfrau gwerthfawr mewn perygl o gael eu difa gan dân, lleithder a phryfed. Roedd cysylltiad Gwenogvryn Evans â SyrJohn Williams yn bwysig yn hanes sefydluLlyfrgell Genedlaethol Cymru[1]

Sillafiad "cywir" ei enw, sef y fersiwn a ddefnyddid ganddo fo ei hun, oedd "Gwenogvryn". Gwenogfryn oedd enw a fabwysiadwyd ganddo oherwydd dyna enw ei gartref pan yn fachgen.[2]

Ffynonellau

[golygu |golygu cod]
  1. yn y lle hwn Trevor Fishlock a Mererid Hopwood llyfrgell Genedlaethol Cymru 2007 Td 158/9
  2. E.D. Jones ynY Bywgraffiadur ar-lein

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
Awdurdod
Baner CymruEicon personEginyn erthygl sydd uchod amGymro neuGymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwyychwanegu ato.
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=John_Gwenogfryn_Evans&oldid=10882574"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp