Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

John Coltrane

Oddi ar Wicipedia
John Coltrane
GanwydJohn William Coltrane Edit this on Wikidata
23 Medi 1926 Edit this on Wikidata
Hamlet Edit this on Wikidata
Bu farw17 Gorffennaf 1967 Edit this on Wikidata
Huntington,Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Man preswylJohn Coltrane House, Hamlet,Indianapolis, John Coltrane Home Edit this on Wikidata
Label recordioBlue Note, Atlantic Records, Impulse!, Prestige, ABC Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Combs College of Music
  • William Penn High School Edit this on Wikidata
Galwedigaetharweinydd band,cyfansoddwr, arweinydd, cerddor jazz, chwaraewr sacsoffon,canwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Atlantic Records
  • Blue Note
  • Impulse!
  • Prestige Edit this on Wikidata
Arddulljazz, modal jazz, free jazz, post-bop, hard bop Edit this on Wikidata
PriodAlice Coltrane Edit this on Wikidata
PlantRavi Coltrane Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Pulitzer Prize Special Citations and Awards, North Carolina Music Hall of Fame, Medal 'Buddugoliaeth' yr Ail Ryfel Byd, Medal Ymgyrch 'Asiatic-Pacific', Medal Ymgyrch America Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.johncoltrane.com/ Edit this on Wikidata

Sacsoffonydd a chyfansoddwrjazz oAmerica oeddJohn William Coltrane (23 Medi192617 Gorffennaf1967), a adnabuwyd weithiau fel "Trane".[1] Gan ddechrau chwarae yn arddulliaubebop abop galed, roedd Coltrane (ar yr un pryd â'i gyfaill a'i gyd-berfformiwrMiles Davis) yn arloesol wrth gyflwynomoddau cerddorol i jazz, ac yn hwyrach yn ei yrfa roedd yn ffigwr allweddol ynjazz rhydd. Er gwaethaf ei yrfa cymharol fyr - dim ond deng mlynedd sydd rhwng ei record gyntaf dan ei enw ei hun a'i farwolaeth - fe'i hystyrir yn un o gerddorion pwysicaf ail hanner yrugeinfed ganrif, yn un o ffigyrau canonaiddjazz ac yn un o'r sacsoffonwyr pwysicaf erioed.[1]

Gyrfa gynnar

[golygu |golygu cod]

Bu Coltrane yn chwarae'rclarinét cyn dechrau ar ysacsoffon yn yr ysgol.[2] Bu'n chwarae ym mandiau cymunedol ac ysgol cyn ymuno â'r llynges a chwarae ym mandiau yno hefyd. RoeddCharlie Parker yn ddylanwad cynnar, ac ar ôl gadael y llynges aeth Coltrane ymlaen i chwarae ym mandiau nifer o gerddorion eraill gan gynnwysDizzy Gillespie aJohnny Hodges.

Daeth yn fwy adnabyddus fel rhan o bumawd mawr gyntafMiles Davies yn 1955. Ar gefn ei waith gyda Davis dechreuodd recordio'n fynych yn ystod 1957. I'r cyfnod hwn mae recordiau mawr gyntaf Coltrane yn perthyn. Bu Davis yn ddylanwad pwysig iawn, a dilynodd Coltrane y trwmpedwr drwy gyflwyno moddau cerddorol i'w gerddoriaeth. Ar yr un pryd, datblygodd arddull unigryw ar y sacsoffon gan symud oddi wrth bebop ac arddullCharlie Parker; defnyddir y termsheets of sound ar gyfer dull Coltrane o chwarae ar recordiau megisGiant Steps (1957). Arhosodd gyda Davis (ac eithrio cyfnod sabothol ym mandThelonious Monk) am weddill y 50au cyn gadael yn 1960 i ffurfio ei fand ei hun.

Y Pedwarawd 'Clasurol'

[golygu |golygu cod]

Ar ôl gadael Davis, ffurfiodd Coltrane ei fand ei hun gydaMcCoy Tyner ar y piano,Elvin Jones ar y drymiau, a nifer o faswyr cyn iJimmy Garrison gwblhau'r band yn 1962. Y grŵp hwn oedd band enwocaf Coltrane ac fe recordiwyd nifer fawr o weithiau gyda nhw rhwng 1962 a 1965. Record enwocaf y band oeddA Love Supreme a recordiwyd yn hwyr yn 1964 cyn ei chyhoeddi yn 1965. Darn crefyddol, defosiynol oedd hwn, ac fe'i hystyrir yn un o recordiau pwysicaf yn hanes jazz.

Gwaith Hwyr

[golygu |golygu cod]

Yn ystod y 60au roedd cerddoriaeth Coltrane yn dangos fwyfwy dylanwadjazz rhydd. Dechreuodd Coltrane gyflwyno technegau'r arddull i'w chwarae ac i chwarae ei fand, er gwaethaf yr ymateb cymysg a gafodd y newid hwn gan feirniaid y cyfnod. Roedd yr albwmAscension yn 1965 yn dangos newid mawr: byrfyfyrio pur gan grŵp mawr oedd hwn oedd yn llawer mwy chaotig na'r gerddoriaeth a glywyd ganddo yn gynharach. Gadawodd Tyner a Jones yn 1965 ac fe gymerwyd eu llefydd yn y band ganAlice Coltrane (gwraig John) acRashied Ali. Yn ystod yr un cyfnod ymunoddPharaoh Sanders y grŵp fel ail sacsoffonydd.

Bu farw Coltrane o ganser yr afu yn 1967 yn 40 oed yn unig; mwy na thebyg bu defnydd sylweddol o alcohol a chyffuriau yn ystod ei fywyd yn ffactor.

Dylanwad

[golygu |golygu cod]

Cymerodd Coltrane leCharlie Parker fel sacsoffonydd mwyaf dylanwadol jazz. Bu'n ddylanwad uniongyrchol mawr ar bron i bob sacsoffonydd yn y gerddoriaeth a ddaeth ar ei ôl, gan gynnwys nid yn unig y rhai a chwaraeodd gydag ef megisPharaoh Sanders acArchie Shepp, ond hefyd eraill felWayne Shorter ynghyd â sacsoffonwyr cyfnodau diweddarach megisDavid Murray aJoe Lovano. Coltrane yw un o ffigyrau canologjazz rhydd a ffigyrau pwysicaf jazz yn y cyfnod ar ôl 1960au.

Rhestr Recordiau

[golygu |golygu cod]

Rhestr yw'r isod o holl recordiau Coltrane a gynhyrchwyd dan ei arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth ef, yn ystod ei fywyd. Nid yw'n cynnwys nifer fawr o recordiau byw swyddogol ac answyddogol, sesiynau dan arweinyddiaeth eraill, neu sesiynau na chafodd ei ryddhau tan ar ôl i Coltrane symud ymlaen i gwmni arall (neu ar ôl iddo farw).

Prestige and Blue Note Records

[golygu |golygu cod]
  • Coltrane (1957)
  • Blue Train (1957), ei unig sesiwn iBlue Note
  • John Coltrane with theRed Garland Trio (1958)
  • Soultrane (1958)

Atlantic Records

[golygu |golygu cod]
  • Giant Steps (1960)
  • Coltrane Jazz (record gyntaf gydaMcCoy Tyner acElvin Jones) (1961)
  • My Favorite Things (y record gyntaf gyda'r sacsoffon soprano) (1961)
  • Olé Coltrane (1961)

Impulse! Records

[golygu |golygu cod]
  • Africa/Brass (1961)
  • Live! at the Village Vanguard (ymddangosiad cyntafJimmy Garrison) (1962)
  • Coltrane (albwm gwahanol i'r un o 1957 dan yr un enw. Hwn oedd y record gyntaf gyda'r pedwarawd 'clasurol' yn unig) (1962)
  • Duke Ellington & John Coltrane (1963)
  • Ballads (1963)
  • John Coltrane and Johnny Hartman (1963)
  • Impressions (1963)
  • Live at Birdland (1964)
  • Crescent (1964)
  • A Love Supreme (1965)
  • The John Coltrane Quartet Plays (1965)
  • Ascension (y pedwarawd fel rhan o grwp mawr) (1966)
  • New Thing at Newport (gydagArchie Shepp) (1966)
  • Kulu Sé Mama (1966)
  • Meditations (pedwarawd gydaPharoah Sanders acRashied Ali) (1966)
  • Live at the Village Vanguard Again! (1966)
  • Expression (albwm olaf Coltrane) (1967)

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. 1.01.1John Coltrane. allmusic
  2. Group, The Jazz Sipper (2013-03-13).The History of Jazz and the Jazz Musicians. Lulu Press, Inc.ISBN 9781257544486.[dolen farw]
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=John_Coltrane&oldid=14307588"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2026 Movatter.jp