Ganwyd Bunyan ynElstow gerBedford, yn fab i dincer (trwsiwr offer metal domestig o bob math). Yn 1649 priododd ferch dlawd ac yn fuan wedyn dechreuodd gael cyfres o brofiadau crefyddol mewnol dwys a ddisgrifir yn ei gyfrol ddylanwadolGrace Abounding.
O 1653 ymlaen bu'npregethu i gynulleidfaoeddAnghydffurfiol o gwmpas Bedford. Daeth i gysylltiad âGeorge Fox, arweinydd yCrynwyr, ac ysgrifennodd draethawd yn ymosod ar gred yr enwad honno.
Ym1660 cafodd Bunyan ei arestio mewn ffermdy ger Ampthill a threuliodd y ddeuddeg blynedd nesaf yn y carchar. Yno yr aeth ati i lenydda mewn difrif ac mae nifer o'i weithiau mawr yn dyddio i'r cyfnod hwnnw, yn cynnwysGrace Abounding (1666).
Mae gweithiau Bunyan wedi'u cyfieithu i'rGymraeg nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Yn y19g prin oedd ycapelwyr na cheid copi o waith Bunyan yn eu cartref.