| Jimmy Wales |
|---|
 |
| Ffugenw | Jimbo  |
|---|
| Llais | Jimmy Wales voice.ogg  |
|---|
| Ganwyd | Jimmy Donal Wales  7 Awst 1966  Huntsville  |
|---|
| Man preswyl | Llundain  |
|---|
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America,y Deyrnas Unedig  |
|---|
| Alma mater | |
|---|
| Galwedigaeth | person busnes, entrepreneur, wicimediwr, gwyddonydd cyfrifiadurol, ymchwilydd, areithydd, masnachwr  |
|---|
| Swydd | Chair of the Wikimedia Foundation Board of Trustees, non-executive director, Founder's seat  |
|---|
| Cyflogwr | - Bomis
- Fandom, Inc.

|
|---|
| Adnabyddus am | Wikipedia, The Seven Rules of Trust  |
|---|
| Prif ddylanwad | Ayn Rand, Friedrich Hayek  |
|---|
| Priod | Kate Garvey, Christine Rohan, Pamela Green  |
|---|
| Gwobr/au | Quadriga, Gwobr EFF, Gottlieb Duttweiler Prize, UNESCO Niels Bohr Medal, Gwobr Hall of Fame y Rhyngrwyd, Young Global Leaders, Leonardo Award, Gwobr Dan David, Medal y Llywydd, prix Giles, Nokia Foundation Recognition Award  |
|---|
| Gwefan | https://jimmywales.com/  |
|---|
| llofnod |
|---|
 |
Dyn busnes o'r Unol Daleithiau ywJimmy Donal "Jimbo"Wales (/ˈdʒɪmiˈdoʊnəlˈweɪlz/; ganwyd7 Awst1966)[1]. Mae'n un o gyd-sylfaenwyr a hyrwyddwyr ygwyddoniadur dielw arleinWikipedia a'r cwmni lletya gwe di-elwWikia.[2][3]
Ganwyd Wales ynHuntsville,Alabama, lle mynychoddRandolph School, ysgol baratoi i brifysgol.[4] Yn ddiweddarach fe enillodd raddau baglor a meistr mewncyllid oBrifysgol Auburn ac ynaPrifysgol Alabama, yn ôl eu trefn.
Tra yn ysgol raddedigion, fe ddysgodd mewn dwy brifysgol, ond gadawodd cyn cwblhauPhD i gymryd swydd mewn cyllid a gweithiodd yn ddiweddarach fel cyfarwyddwr ymchwil mewn cwmni cyllid yn Chicago. Yn 1996, fe wnaeth e a dau bartner ffurfioBomis, porth gwe ar gyfer dynion, yn cynnwys adloniant a deunydd i oedolion. Fe fyddai'r cwmni yn ffynhonnell arian cychwynnol ar gyfer y gwyddoniadur am ddimNupedia (2000–2003) a'i olynydd, Wikipedia.
Cyfeiriadau