Jennifer Lynch | |
---|---|
Ganwyd | 7 Ebrill 1968 ![]() Philadelphia ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm,cynhyrchydd ffilm,sgriptiwr,ysgrifennwr,actor ![]() |
Tad | David Lynch ![]() |
Mam | Peggy Reavey ![]() |
Partner | Andrew J. Peterson ![]() |
Plant | Sydney Lynch ![]() |
Cyfarwyddwr ffilm a theleduAmericanaidd ywJennifer Lynch (ganwyd7 Ebrill1968) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith felsgriptiwr ac awdur. Mae'n ferch i'r gwneuthurwr ffilm David Lynch ac yn awdur y llyfrynThe Secret Diary of Laura Palmer (990).[1][2][3][4]
Fe'i ganed ynPhiladelphia,Pennsylvania ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Ganolfan y Celfyddydau, Interlochen,Michigan.[5]
Mae hi'n ferch i'r artist a'r gwneuthurwr ffilmiau David Lynch, sy'n tarddu o'rFfindir[6], a'r arlunydd Peggy Reavey. Dechreuodd ymarfer Myfyrdod Trosgynnol yn chwech oed.[7] Graddiodd Lynch o'r Academi Gelf Interlochen lle astudiodd y celfyddydau gweledol ac ysgrifennu creadigol.
Denodd sgript, a gomisiynwyd gan Lynch ar gyferBoxing Helena, lawer o actoresau, gan gynnwys Madonna. Yn y pen draw, castiwyd Sherilyn Fenn, un o'r sêr yng nghyfres deledu ei thadTwin Peaks a'r ffilmWild at Heart, fel y prif gymeriad Helena. Roedd Kim Basinger hefyd ynghlwm ac fe gafodd ei siwioar ôl ymddiswyddo o’r prosiect. Roedd y ddadl ynghylch yr achos hwnnw, yn ogystal â gwaedd gan ffeministiaid oherwydd testun sadistaidd Helena a chyhuddiadau o nepotistiaeth, yn cyd-fynd â beirniadaeth o'r ffilm wedi iddi gael ei rhyddhau ym 1993.
Yn dilyn cyfnod tawel eitha hir, dychwelodd Lynch i'r arena gyhoeddus gyda'r ffilmSurveillance (Gwyliadwriaeth) ac, ym mis Hydref 2008, enilloddSurveillance y brif wobr yn yr Festival de Cine de Sitges.[8] Fis yn ddiweddarach, Lynch oedd y fenyw gyntaf i dderbyn gwobr Cyfarwyddwr Gorau Gŵyl Ffilm Arswyd Dinas Efrog Newydd.[9]
Blwyddyn | Teitl | Sgwennwr | Cynhyrchydd | Y prif gast | Nodiadau |
1993 | Boxing Helena | Jennifer Lynch, Philippe Caland | Philippe Caland | Sherilyn Fenn, Julian Sands, Bill Paxton | |
2008 | Surveillance | Jennifer Lynch, Kent Harper | David Lynch, Kent Harper, Marco Mehlitz, David Michaels | Bill Pullman, Julia Ormond, French Stewart | |
2010 | Hisss | Jennifer Lynch | Vikram Singh, Govind Menon | Mallika Sherawat, Irrfan Khan | Gwadodd y ffilm |
2012 | Chained | Jennifer Lynch, Damian O'Donnell | Rhonda Baker, David Buelow, Lee Nelson | Vincent D'Onofrio, Eamon Farren, Julia Ormond | Hefyd ymddangosiadcameo |
TBA | A Fall from Grace | Jennifer Lynch, Eric Wilkinson | David Lynch,Forest Whitaker, Tim Roth, Paz Vega, Vincent D'Onofrio, Willow Shields | Ôl-gynhyrchiad | |
2022 | Dahmer – Monster: The Jeffrey Dahmer Story | Jennifer Lynch | Netflix | Evan Peters, Niecy Nash, Richard Jenkins, Penelope Ann Miller, Shaun J. Brown ve Colin Ford | Netflix |