Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

Jenůfa

Oddi ar Wicipedia
Jenůfa
Enghraifft o:gwaith drama-gerdd Edit this on Wikidata
IaithTsieceg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi20 g Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1904 Edit this on Wikidata
CymeriadauGrandmother Buryjovka, Jenůfa, Karolka, Kostelnička Buryjovka, Laca Klemeň, Mayor, Mayor's wife, Števa Buryja, Stárek Edit this on Wikidata
Yn cynnwysJealousy Edit this on Wikidata
LibretyddLeoš Janáček Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af21 Ionawr 1904 Edit this on Wikidata
Enw brodorolJenůfa Edit this on Wikidata
Lleoliad y gwaithMorafia Edit this on Wikidata
Hyd110 munud Edit this on Wikidata
CyfansoddwrLeoš Janáček Edit this on Wikidata
Tudalen CominFfeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

MaeJejí pastorkyňa (Ei llysferch; yn aml adnabyddir felJenůfa) yn opera mewn tair act ganLeoš Janáček i libreto Tsiec gan y cyfansoddwr, wedi'i seilio ar y ddramaJejí pastorkyňa gan Gabriela Pressová. Perfformiwyd gyntaf yn Theatr Cenedlaethol, Brno ar 21 Ionawr 1904. Cyfansoddwyd rhwng 1896 a 1902,[1] dyma'r un o'r operâu cyntaf i gael ei hysgrifennu mewn rhyddiaith.[2]

Dyma'r cyntaf o operâu Janáček i ddefnyddio ei lais cerddorol nodweddiadol, mae'n stori greulon o fabanladdiad ac adbryniant. Yn debyg i'r ddrama wreiddiol, mae'n enwog am ei realaeth. Erbyn heddiw clywir fersiwn gwreididol y cyfansoddwr, roedd poblogrwyddJenůfa yn gyfrifol am addasiad fersiwn gan Karel Kovařovic, gan newid beth cafodd ei ystyru yn arddull echreiddig. Ar ôl iddi gael ei haddasu, cafodd ei derbynio'n dda, yn gyntaf yn Prague, ac yn enwedig ar ôl ei pherfformiad yn Vienna.[3] Bu mwy na 70 mlynedd tan i gynulleidfaoedd glywed fersiwn Janáček gwreiddiol.

Ysgrifennodd Janáček agorawd i'r opera, ond penderfynodd nid i'w ddefnyddio. Cafodd ei seilio ar gân o'r enwŽárlivec (y dyn genfigennus). Caiff ei berfformio fel darn cyngerdd o'r enwŽárlivost (Cenfigen), JW 6/10.[4]

Cyflwynodd y cyfansoddwr y gwaith i'w ferch Olga (m. 1903), fel a wnaeth gyda'r cyfansoddiad corawlGalargan ar Farwolaeth Merch Olga.

Cymeriadau

[golygu |golygu cod]
CymeriadLlais
Jenůfasoprano
Laca Klemeňtenor
Števa Buryjatenor
Kolstelnička Buryjovkasoprano
Mamgu Buryjovkacontralto
Stárek,fforman y felinbariton
Y Maerbas
Gwraig y maermezzo-soprano
Karolkamezzo-soprano

Crynodeb

[golygu |golygu cod]

Lleoliad: Tref yn Moravia

Cyfnod: y pedweredd-ar-bymtheg ganrif

Mae'r plot yn dibynnu ar nifer o berthnasau yn y dref. Cyn i'r opera ddechrau, mae dau fab perchennog y felin, Mamgu Buryja, wedi priodi dwywaith, wedi cael plant, ac wedi marw. Mae eu gwragedd hefyd wedi marw, heb law am y Kostelnička (gweddw warden yr eglwys), gwraig yr ail fab a llysfam i Jenůfa. Mae traddodiad yn datgan mai dim ond Števa fydd yn etifeddu'r felin, plentyn i'r mab hynaf drwy ei ail briodas, gan adael ei hanner-brawd a'i genfither i ennill arian eu hunain.

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
  1. The description of the Universal Edition German-translated vocal score, 1944 republication, gives 1894–1903 instead- see OCLC 475447489
  2. Kundera, Milan (2004).Můj Janáček (yn Tsieceg). Brno: Atlantis. t. 54.ISBN 80-7108-256-2.
  3. Štědroň, Miloš (Trans. Ted Whang) (2006),"Jenůfa (Brno Janáček Opera Chorus and Orchestra, conductorFrantišek Jílek)" (CD). Leoš Janáček. Prague:Supraphon. SU 3869-2.Cite journal requires|journal= (help)CS1 maint: others (link) t.12
  4. Jealousy, Classical Archives
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Jenůfa&oldid=11089217"
Categorïau:
Categori cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp