Dizzy Gillespie, a'i fochau llawn gwynt, yn canu ei drwmped cam enwog.
Math ogerddoriaeth ywjazz (neu weithiau yn Gymraegjas) a ffurfiodd ymysg cymunedaudu deUnol Daleithiau America ar ddiwedd y 19g, yn enwedigNew Orleans[1]. Roedd gwreiddiau jazz ynragtime ac yn enwedigfelan[2], math o gerddoriaeth oedd yn ei thro yn hanu o ddylanwadau brodorolAffrica a chafodd eu mewnforio i'r Unol Daleithiau drwy'rfasnach gaethweision. Ers y dechrau hyn mae jazz wedi parhau i blethu a mewnforio elfennau o draddodiadau cerddoriaeth Americanaidd a gwleydd eraill.[3] Nodweddion cyffredin mewn jazz yw nodauswing a'rfelan, rhythmaupoliffonig ac yn enwedigbyrfyfyrio. Ystyrir jazz yn ffurf ar gelf cynhenid Americanaidd.[4]
Ystyrir mae'r recordiad Jazz gyntaf oeddLivery Stable Blues, a recordiwyd yn 1917 gan yrOriginal Dixieland Jazz Band[5], ond erbyn dyddiad y recordio roedd jazz fel cerddoriaeth yn cael ei chwarae'n fynych dros yr Unol Daleithiau, ffaith sydd wedi'i dystio ym mhapurau newydd y cyfnod (defnyddiwyd y sillafiadJass yn aml yn gynnar, ond roeddJazz yn safonol erbyn 1920). Cymharol ychydig a wyddys am ddechreuadau Jazz, gan nad oedd y gerddoriaeth yn cael ei recordio na'i ysgrifennu i lawr - nid oedd mwyafrif y chwaraewyr cyntaf yn gallu darllen cerddoriaeth ysgrifenedig, a chan bod y gerddoriaeth yn dibynnu gymaint ar fyr-fyfyrio, mae recordiadau sain yn hanfodol i olrhain ei hanes.Buddy Bolden efallai yw un o'r enghreifftiau enwocaf o'r cerddorion gynnar hyn: fe'i ystyriwyd yn ddylanwad hollbwysig gan nifer o'r rhai a'i glywodd yn fyw[6], ond ail-law yw'r holl dystiolaeth amdano gan nad oes yr un record ganddo yn hysbys.
Charlie Parker a'i fand, Efrog Newydd, tua 1945. Parker oedd un o fawrionbebop
Datblygiad sylweddol yn Jazz yn ystod y 1940au oeddBebop, math newydd o Jazz oedd yn fwy cymhleth o lawer, yn harmonig ac yn rythmig, na cherddoriaeth Swing aJazz traddodiadol. Yn wahanol i Swing ac ardduliiau Jazz cynharach, ni fwriadwydBebop ar gyfer dawnsio. Roedd hyn yn galluogi i gerddorion i chwarae'n gyflymach o lawer, a throdd ffocws y gerddoriaeth yn fwy byth ar yr unigolyn yn hytrach na'r grŵp. Dylanwad sylweddol Bebop oedd trawsnewid Jazz o fod yngerddoriaeth boblogaidd i fod yn arddull gerddorol a gafodd ei ystyried yngelf. Er cymerwyd lle bebop 'pur' yr 1940au ar ganol datblygiad jazz gan arddulliau eraill yn gymharol gyflym, strwythur bebop a welir fwyaf aml ym mwyafrif jazz modern o'r 1940au hyd at y presennol.
O'r dechrau ymlaen roedd bebop yn ddadleuol ymysg beirniaid a'r cyhoedd. Er gwaethaf ei bwysigrwydd o ran datblygiad jazz, cymharol fechan oedd cyfran bebop o'r farchnad gerddoriaeth yn y 1940au; yn hytrach, Swing oedd yn parhau i werthu orau.
Ornette Coleman (1930-2015), cerddor allweddol yn hanes jazz rhydd.
Math newydd o jazz a ddechreuodd ymddangos ar ddiwedd y 1950au oeddjazz rhydd. Tra roedd Bebop wedi ehangu posibiliadau jazz drwy ymestyn ystod harmonig y gerddoriaeth, aeth jazz rhydd gam ymhellach drwy ganiatau i gerddorion droi eu cefn ar strwythurau harmoniol yn gyfan gwbl. Wrth chwarae'n rhydd, gall offerynwyr dilyn eu hwynt eu hunain yn gyfan gwbl heb orfod cadw at strwythurau traddodiadol cerddorol megis cordiau, amser, neu allwedd. Byddai rhai cerddorion rhydd yn chwarae eu hofferynnau drwy ddulliau newydd, er enghraifft rhuo drwy sacsoffon neu gor-chwythu bwriadol (er nad oedd y technegau hyn i'w glywed yn jazz rhydd bob tro o bell ffordd).
Er bod jazz rhydd wedi agor nifer fawr o bosibiliadau cerddorol newydd, roedd y dulliau newydd hyn yn ddadleuol iawn ymysg beirniaid, gyda rhai yn awgrymu nad oedd cerddorion jazz rhydd yn meddu ar y gallu technegol i chwarae'n 'iawn', neu eu bod wedi cefnu ar jazz yn gyfan gwbl.
Cerddorion jazz rhydd pwysig ar ddechrau'r 70au oeddOrnette Coleman - rhoddodd album ColemanFree Jazz (1961) yr enw i'r arddull -Eric Dolphy, aCecil Taylor. RoeddJohn Coltrane yn ymarferwr hynod bwysig hefyd. Ar ôl ennill enwogrwydd fel rhan o grŵpMiles Davis yn y 50au, dechreuodd Coltrane chwarae'n rhydd yn 1961, fel sydd i'w glywed ar ei recordiau byw o glwb yVillage Vanguard yn Efrog Newydd. Bu farw Coltrane yn 1967, ond cafodd ddylanwad enfawr ar genhedlaeth newydd o sacsoffonwyr jazz rhydd yn y 1970au.
Erbyn yr 1960au hwyr, nid jazz bellach oedd brif gerddoriaeth poblogaidd America a'r gorllewin: roedd wedi colli ei lle igerddoriaeth roc. Fel ymateb i'r newid hwn, dechreuodd nifer cynyddol o gerddorion jazz gyflwyno elfennau o gerddoriaeth roc megis curiadau roc ac offerynnau electronig i'w cerddoriaeth.Fusion oedd yr enw Saesneg a roddwyd i'r math yma o gerddoriaeth. Roedd arloeswyr yr arddull hon yn cynnwysMiles Davis,Chick Corea (drwy ei fandReturn to Forever),Herbie Hancock,Wayne Shorter (a'i fandWeather Report) ymysg eraill.
Yn yr 80au, cafwyd adwaith yn erbyn jazz rhydd a fusion, y ddwy arddull a fu'n domineiddio jazz newydd yn ystod y 70au. Dechreuodd cerddorion gan gynnwysHerbie Hancock aChick Corea, a fu'n ffigyrau pwysig yn fusion, recordio jazz acowstig eto. Cafwyd gwrthdaro tebyg yn erbyn jazz rhydd: dechreuoddKeith Jarrett - pianydd a oedd wedi archwilio jazz rhydd yn ystod y 1970au - ar brosiect 40-mlynedd o recordio caneuon jazz traddodiadol. Rhoddwyd llais i'r tueddiadau adweithiol hyn gan y trwmpedwrWynton Marsalis, a ddaeth i'r amlwg fel rhan o fandArt Blakey.Ceidwadwr cerddorol oedd Marsalis a oedd yn ystyried jazz rhydd i fod yn estron i'r traddodiad; nid oedd yn gweld gwerth artistig i fusion chwaith[7]. Dylanwad mwyaf amlwg Marsalis oedd cerddoriaethMiles Davis o'r 60au gyda'i ail bumawd fawr; fodd bynnag yn ddiweddarach dangosodd Marsalis ddylanwad gynyddol gan jazz traddodiadol yr 1920au a'r 1930au.
Ers 1980 mae byd jazz wedi'i nodwedu gan ystod o arddulliau gwahanol yn cyd-fyw, gyda chwaraewyr yn aml yn symud yn rhydd rhyngddynt o record i record neu hyd yn oed o fewn albwm neu gân. Mae cerddorion pwysig a ddaeth i'r amlwg yn yr 1980 yn cynnwysGeri Allen,Terence Blanchard aJohn Zorn.