Gwobr Heddwch Nobel, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Chicago, Hall of Fame Lesbiaid a Hoywon Chicago, Hall of Fame Americanwyr Mawr
Yn 1931, hi oedd y fenyw Americanaidd gyntaf i ennillGwobr Heddwch Nobel. Mae hi'n cael ei chydnabod fwyfwy felathronydd pragmataidd, ac fel yr "athronydd benywaidd cyhoeddus cyntaf yn hanes yr Unol Daleithiau".[6]
Yn yr "Oes Flaengar" (yr hyn a elwir yn"Progressive Era"), pan nododd llywyddion fel Theodore Roosevelt a Woodrow Wilson eu bod yn ddiwygwyr a gweithredwyr cymdeithasol, Addams oedd un o'r diwygwyr mwyaf blaenllaw. Helpodd America i fynd i'r afael â materion a oedd yn peri pryder i famau, fel anghenion plant, iechyd cyhoeddus lleol, a heddwch y byd. Yn ei thraethawd 'Defnyddio Menywod mewn Llywodraeth y Ddinas', (Utilization of Women in City Government) nododd Addams y cysylltiad rhwng gweithrediadau llywodraeth y wlad a'r aelwyd, gan fynnu fod cysylltiad rhang glanweithdra, carffosiaeth dinesig, addysg plant ayb a rôl y ferch, yn draddodiadol, yn y cartref. Felly, roedd y rhain yn faterion y byddai gan fenywod fwy o wybodaeth amdanynt na dynion, felly roedd menywod angen y bleidlais i leisio'u barn yn y ffordd orau.[13]
Pe bai menywod yn gyfrifol am lanhau eu cymunedau, dywedodd, a'u gwneud yn lleoedd gwell i fyw, yna roedd angen iddynt allu pleidleisio i wneud hynny'n effeithiol. Daeth Addams yn fodel i fenywod y dosbarth canol, a ddechreuodd ddilyn ei syniadau, gan wirfoddolodd i wella eu cymunedau.
Jane Addams oedd yr ieuengaf o wyth o blant a aned i deulu ffyniannus o ogledd Illinois, teulu a oedd yn wreiddiol o Loegr, ac a symudodd iPennsylvania. Yn 1863, pan oedd Jane yn 2 oed, bu farw ei mam, Sarah Addams (g. Weber), tra'n feichiog gyda'i nawfed plentyn. Wedi hynny gofalwyd am Jane Addams gan ei chwiorydd hŷn yn bennaf. Pan oedd Addams yn wyth oed, roedd pedwar o'i brodyr a'i chwiorydd wedi marw: tri yn fabanod ac un yn 16 oed.[14][15]
Yn ystod ei hoes, bu'n aelod o Ferched y Chwyldro Americanaidd, Alpha Kappa Alpha, Cynghrair Ryngwladol Menywod dros Heddwch a Rhyddid, Cymdeithas Phi Beta Kappa a Phwyllgor Rhyngwladol Menywod dros Heddwch Parhaol.[16]
Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys:Gwobr Heddwch Nobel (1931), 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (1973), Gwobr 'Hall of Fame' Merched Chicago (1988), Hall of Fame Lesbiaid a Hoywon Chicago (2008), Hall of Fame Americanwyr Mawr (1965)[17][18][19] .
↑Franklin, D. (1986). Mary Richmond and Jane Addams: From Moral Certainty to Rational Inquiry in Social Work Practice.Social Service Review , 504-525.
↑Chambers, C. (1986). Women in the Creation of the Profession of Social Work.Social Service Review , 60 (1), 1–33.
↑Shields, Patricia M. (2017). Jane Addams: Pioneer in American Sociology, Social Work and Public Administration. In, P. Shields Editor,Jane Addams: Progressive Pioneer of Peace, Philosophy, Sociology, Social Work and Public Administration tt. 43–68.ISBN978-3-319-50646-3
↑Shields, Patricia M. (2017). Jane Addams: Peace Activist and Peace Theorist In, P. Shields Editor,Jane Addams: Progressive Pioneer of Peace, Philosophy, Sociology, Social Work and Public Administration tt. 31-42.ISBN978-3-319-50646-3
↑Maurice Hamington, "Jane Addams" inStanford Encyclopedia of Philosophy (2010) portrays her as a radical pragmatist and the first woman 'public philosopher" in United States history".
↑Cyffredinol:ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.LIBRIS. dyddiad cyhoeddi: 26 Mawrth 2018. dyddiad cyrchiad: 24 Awst 2018.
↑Jane Addams, "Utilization of Women in City Government," in Alice S. Rossi, ed., TheFeminist Papers: From Adams to de Beauvoir (1997), 604-612. This is also chapter 7 in Addams's 1907 bookNewer Ideals of Peace tt. 180–208.