James Roose-Evans | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 11 Tachwedd 1927 ![]() Llundain ![]() |
Bu farw | 26 Hydref 2022 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, awdur plant, cyfarwyddwr theatr,dramodydd, theatrolegydd, newyddiadurwr ![]() |
RoeddJames Roose-Evans (11 Tachwedd1927 -26 Hydref2022) yn gyfarwyddwr theatr ac awdur. Ym 1959 sefydlodd y Clwb Theatr Hampstead yn Llundain. Sefydlodd y Canolfan Bleddfa ar gyfer yr Ysbryd Creadigol,[1] yng nghanolbarth Cymru, ym 1974.[2]
Cafodd Roose-Evans ei geni yn Llundain, yn ail fab i Jack a Primrose Roose-Evans. Gwerthwr teithiol oedd ei dad.[2] Mynychodd Ysgol Ramadeg Crypt,Caerloyw, cyn treulio deunaw mis yn y fyddin yn yr Eidal. Derbyniwyd ef iSt Benet's Hall, Rhydychen, lle darllenodd Saesneg. Yn ystod y gwyliau, ac ar ôl graddio o'r brifysgol, bu'n gweithio fel actor. Trosodd yn ddiweddarach i Gatholigiaeth Rufeinig.
Sefydlodd Roose-Evans Glwb Theatr Hampstead yn Neuadd Moreland, yn Holly Bush Vale, Llundain, ym 1959. Agorodd y tymor cyntaf gydaSiwan, drama ganSaunders Lewis, wedi ei chyfieithu ganEmyr Humphreys, gydaSiân Phillips fel y DywysogesSiwan. Cyfarwyddodd drama84 Charing Cross Road, a addasodd ei hun, yn y West End.[3]