Movatterモバイル変換


[0]ホーム

URL:


Neidio i'r cynnwys
Wicipedia
Chwilio

James Cook

Oddi ar Wicipedia
James Cook
Ganwyd27 Hydref 1728 Edit this on Wikidata
Marton Edit this on Wikidata
Bu farw14 Chwefror 1779 Edit this on Wikidata
o clwyf drwy stabio Edit this on Wikidata
Kealakekua Bay Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, mapiwr, swyddog yn y llynges, morwr, botanegydd Edit this on Wikidata
TadJames Cook Edit this on Wikidata
MamGrace Pace Edit this on Wikidata
PriodElizabeth Cook Edit this on Wikidata
PlantJames Cook, Nathaniel Cook, Elizabeth Cook, Joseph Cook, George Cook, Hugh Cook Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol, Medal Copley, Pobl o Bwys Hanesyddol Cenedlaethol Edit this on Wikidata
llofnod

Fforiwr oLoegr oeddCapten James Cook (27 Hydref172814 Chwefror1779). Ganwyd ymMarton,Cleveland,Lloegr. Teithiodd o gwmpas y byd dair gwaith, er mwyn darganfod tiroedd newydd. Fe lunioddfapiau manwl, er enghraifft o arfordiroedd ynysoedd yMôr Tawel,Awstralia,Seland Newydd aGogledd America.

Mordeithiau Cook

[golygu |golygu cod]

Roedd y fordaith gyntaf (1768-1771) yn yrHM Bark Endeavour iDahiti er mwyn gwylio'r blanedGwener yn symud o flaen yrhaul. Ond doedd hi ddim yn bosibl cael canlyniadau cywir gyda'r offerseryddol ar y pryd. Ar ôl gwylio Gwener, aeth Cook i chwilio amTerra Australis, arfordir cyfiniol y Môr Tawel, ac i fapio arfordiroedd Seland Newydd ac Awstralia.

Roedd yr ail fordaith (1772-1775) ar HMSResolution ac HMSAdventure; roedd yn daith arall i ddod o hyd iTerra Australis a'r cynnig cyntaf i long oEwrop hwylio i FôrAntarctica. Ar y daith hon profodd Cook nad oeddTerra Australis yn bodoli, ond darganfu lawer o ynysoedd.

Roedd y drydedd fordaith (1776-1779) ar y llongau HMSResolution ac HMSEndeavour, i chwilio am lwybr môr o'rMôr Iwerydd i'rMôr Tawel o gwmpas gogleddCanada, sef y 'Tramwyfa gogledd-orllewin'. Ar ôl gwneud mapiau o arfordir gorllewinAmerica, bu'n rhaid iddo droi yn ôl i Hawaii, lle cafodd ei ladd gan brodorion yr ynys ar ôl brwydro i gael yn ôl cwch a oedd wedi'i ddwyn. Roedd y CymroDavid Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar drydedd fordaith y Capten Cook. Roedd yn fab i'r llenorEdward Samuel, gŵr o Benmorfa ynEdeirnion, a fu'n bersonLlangar o 1721 tan 1748. Cadwodd ddyddiadur am y fordaith a chyhoeddodd y llyfrA Narrative of the Death of Captain James Cook yn 1786.

Gorchestion

[golygu |golygu cod]

Mae Cook yn adnabyddus am ei sgiliau gwneud mapiau, am fod yn lwyddiannus wrth atal afiechydion morwyr, ac wrth ddatblygu dulliau mordwyo newydd.

Llyfryddiaeth

[golygu |golygu cod]
  • David Samwell,A Narrative of the Death of Captain James Cook (1786)

Cyfeiriadau

[golygu |golygu cod]
Awdurdod
Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=James_Cook&oldid=12979976"
Categorïau:
Categorïau cudd:

[8]ページ先頭

©2009-2025 Movatter.jp